Ambiwlans Awyr Cymru i Blant Ein nod yw gwasanaethu Cymru gyfan, gan gynnwys cleifion ieuengaf Cymru. Mae Ambiwlans Awyr Cymru i Blant yn is-adran arbenigol o’n helusen, sy’n darparu gofal a chludiant arbenigol angenrheidiol i gleifion pediatreg a newydd-anedig. Mae ein pedwerydd hofrennydd yn golygu mai ni yw'r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf ym Mhrydain, a ddefnyddir i ddarparu ystod eang o driniaethau ar gyfer cleifion pediatreg. Rydym yn cynorthwyo tua 400 o blant a babanod bob blwyddyn, naill ai fel rhan o gyrchoedd argyfwng 999 neu drwy ddefnyddio ein hofrennydd penodol i’w cludo. Hafan Beth Ydym yn gwneud Amdanom Cyrchoedd Cit a'r fwrdd CWRDD Â'R CRIW Sut I helpu Cymrd rhan Cyfrannwch Adnoddau Ar Gyfer Plant Loteri Loteri Ambiwlans Awyr Cymru i Blant Canlyniadau Ymunwch Nawr Codi Arian gyda Ffrindiau Ydych chi am ddal i fyny gyda hen ffrindiau? P'un a ydych am drefnu noson fawreddog neu un fach dawel, beth am godi arian ar yr un pryd? Dyma rai syniadau: Abseilio neu Awyrblymio Noson o bampro – Estynnwch y masgiau wyneb, y farnais ewinedd a’ch hoff DVD, a gofynnwch i’ch ffrindiau am rodd i ymuno â chi. ‘Come dine with me’ – Ydych chi’n gogydd gwell na’ch ffrindiau? Eillio’r pen – Byddwch yn ddewr! Diwrnod Sgwrs a Gwau – Mwynhewch ddiwrnod o wau gyda ffrindiau. Noson Coctels – Gwisgwch eich dillad gorau am noson o goctels blasus Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected]