Coffi a Chacen

Barod am baned!

 

Dathlwch ein pen-blwydd yn 23 oed drwy gofrestru ar gyfer ein digwyddiad cyffrous, newydd sbon, Coffi a Chacen.

Y peth gwych am y digwyddiad hwn yw ei fod yn agored i bawb, ac y gallwch gynnal eich parti eich hun ar adeg sy'n gyfleus i chi.

Dewch at eich gilydd gyda theulu, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr a chynnal eich Parti Coffi a Chacen eich hun ym mis Mawrth.

Cynhwysion

·       200g o siwgr mân

·       200g o fenyn meddal

·       4 wy, wedi'u curo

·       200g o flawd codi

·       1 llwy de o bowdr pobi

·       2 lwy fwrdd o laeth

Ar gyfer y llenwad

·       100g o fenyn meddal

·       140g o siwgr eisin, wedi'i hidlo

·       diferyn o rin fanila (dewisol)

·       hanner jar 340g o jam mefus o ansawdd da

·       siwgr eisin, ar gyfer addurno

Dull

CAM 1 - Cynheswch y popty i 190C/ffan 170C/nwy 5. Irwch ddau dun pobi 20cm a'u leinio â phapur pobi anlynol.

CAM 2 - Mewn powlen fawr, curwch 200g o siwgr mân, 200g o fenyn meddal, 4 wy wedi'u curo, 200g o flawd codi, 1 llwy de o bowdr codi a 2 lwy fwrdd o laeth â'i gilydd nes i chi gael cytew llyfn a meddal.

CAM 3 - Rhannwch y cymysgedd rhwng y tuniau, a defnyddiwch sbatwla neu gefn llwy i lyfnhau'r arwyneb.

CAM 4 - Pobwch am tua 20 munud nes byddant yn euraidd ac yn codi'n ôl ar ôl cael eu pwyso.

CAM 5 - Rhowch y cacennau ar rac oeri a'u gadael i oeri'n llwyr.

CAM 6 - I wneud y llenwad, curwch y 100g o fenyn meddal nes bydd yn esmwyth a hufennog, yna curwch 140g o siwgr eisin wedi'i hidlo a diferyn o rin fanila (os ydych yn ei ddefnyddio) i mewn i'r cymysgedd yn raddol.

CAM 7 - Taenwch yr hufen menyn ar waelod un o'r sbyngau. Ychwanegwch 170g o jam mefus a rhowch yr ail sbwng ar ei ben.

CAM 8 - Ysgeintiwch ychydig o eisin siwgr cyn gweini. Cadwch y gacen mewn cynhwysydd aerdyn a'i bwyta o fewn 2 ddiwrnod.