Coffi a Chacen

Barod am baned!

 

Dathlwch ein pen-blwydd yn 23 oed drwy gofrestru ar gyfer ein digwyddiad cyffrous, newydd sbon, Coffi a Chacen.

Y peth gwych am y digwyddiad hwn yw ei fod yn agored i bawb, ac y gallwch gynnal eich parti eich hun ar adeg sy'n gyfleus i chi.

Dewch at eich gilydd gyda theulu, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr a chynnal eich Parti Coffi a Chacen eich hun ym mis Mawrth.

Yn gwneud 8-10 tafell | Amser Paratoi 15 munud  | Amser Coginio 1 Awr

Cynhwysion

400g o ffrwythau cymysg (e.e. syltanas, rhesins, cyrens)

300ml o de cryf, poeth

250g o flawd codi

1 llwy de o sbeis cymysg

100g o siwgr crai brown tywyll

1 wy maes, wedi'i guro

Mêl i roi sglein

Dull

01 Rhowch y ffrwythau sych mewn powlen a thywallt y te drostynt, ychwangewch y siwgr a'i gymysgu nes iddo doddi. Gadewch i'r cymysgedd fwydo am o leiaf 6 awr neu dros nos.

02 Drannoeth, hidlwch y blawd a'r sbeis i'r ffrwythau sydd wedi'u mwydo (nid oes angen draenio'r te) a chymysgwch yr wy i mewn. Cymysgwch yn dda.

03 Cynheswch y popty i 180°C /Nwy 4. Leiniwch dun bara 990g â phapur pobi a thywalltwch y gymysgedd i mewn iddo.

04 Pobwch am tua awr nes i'r gacen godi a choginio drwodd. Gadewch iddi oeri ar rac a'i storio am 2 ddiwrnod cyn ei bwyta. Gweiniwch mewn tafelli â menyn.

05 Gellir dyblu'r cymysgedd hwn i wneud 2 dorth a fydd yn cadw am hyd at 7 diwrnod.

06 Cynheswch ychydig o fêl i'w dywallt ar ben y gacen gynnes i roi slgein.