Bydd Clwb Golff y Trallwng yn cynnal digwyddiad codi arian er lles Ambiwlans Awyr Cymru i nodi pen-blwydd yr Elusen yn 21 oed.

Bydd y gystadleuaeth golff yn digwydd ddydd Sadwrn 11 Mehefin a bydd y cystadleuwyr yn cael rholiau cig moch a choffi wrth gyrraedd a bydd pryd dau gwrs yn cael ei weini ar ôl y cystadlaethau. Bydd digwyddiad yn dilyn gyda'r nos.

Bydd sawl enillydd ar y dydd gyda llawer o wahanol wobrau a chyfleoedd i ennill gwobrau.

Bydd amseroedd dechrau ar gael o 8am i 2:30pm a rhaid i bob chwaraewr feddu ar dystysgrif handicap gyfredol. Fodd bynnag, gallwch gystadlu heb un, ond ni fyddwch yn gallu ennill prif wobrau'r diwrnod.

Dathlodd Ambiwlans Awyr Cymru ei ben-blwydd yn 21 oed ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth).

Dywedodd y capten am y flwyddyn, Dan Shepherd, sy'n trefnu'r gystadleuaeth golff elusennol: “Mae Clwb Golff y Trallwng mewn lleoliad uchel iawn ac roeddem yn teimlo y gallai fod yn anodd i'r gwasanaethau brys ein cyrraedd petai angen, ac felly roeddem am helpu'r ambiwlans awyr i godi arian oherwydd gallai fod o fantais i rai o aelodau ac ymwelwyr ein clwb golff. Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn bwysig tu hwnt i'r ardal rydym yn byw ynddi.”

Nid dyma'r tro cyntaf, gan fod Clwb Golff y Trallwng wedi codi arian mawr ei angen i'r elusen sy'n achub bywydau o'r blaen. Bydd y diwrnod yn cynnwys timau o bedwar am bris o £120 fesul tîm.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Dywedodd Dougie Bancroft, un o swyddogion codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr iawn i Dan a phawb yng Nghlwb Golff y Trallwng am gynnal digwyddiad i godi arian i'n helusen sy'n achub bywydau, yn enwedig yn ystod blwyddyn ein pen-blwydd yn 21 oed. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn hanfodol i'n gwlad, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae'r diwrnod golff yn swnio fel diwrnod allan arbennig i unrhyw olffiwr, a gobeithio y bydd pobl yn dangos eu cefnogaeth i'r Elusen ac i Glwb Golff y Trallwng drwy gofrestru am y gystadleuaeth. Mae Dan wedi bod yn gweithio'n galed iawn i drefnu'r digwyddiad codi arian – diolch yn fawr.

“Bydd digwyddiadau fel hyn yn helpu ein meddygon i barhau i fod yno i bobl Cymru 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.”

I gael rhagor o wybodaeth am y diwrnod golff i godi arian ewch i www.welshpoolgolfclub.co.uk neu ffoniwch 01938 850 249 neu gallwch anfon e-bost at [email protected]