Siopwch gydag Ambiwlans Awyr CymruMae gan Ambiwlans Awyr Cymru nifer o siopau ar draws Cymru a redir gan staff yr Elusen a llu o wirfoddolwyr. Mae eich eitemau ail-law yn helpu i godi arian hanfodol sy'n cadw ein hofrenyddion yn yr awyr ac ein cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Er nad ydych chi efallai eisiau gwisgo'r gôt a brynoch chi y gaeaf diwethaf mwy, neu os nad ydych yn hoff iawn o'ch bwrdd bwyd erbyn hyn, mae'n debyg y bydd rhywun arall yn awyddus i'w cael, felly pam na wnewch chi, nid yn unig roi bywyd newydd iddynt a'u rhoi i rywun arall, a'u troi yn rywbeth a fydd yn codi arian fydd yn achub bywydau. Mae ein siopau yn cynnig ffordd gynaliadwy o siopa a helpu i leihau tirlenwi. Rydym yn gwerthu amrywiaeth o eitemau o ansawdd uchel, gan gynnwys dillad, nwyddau'r cartref a dodrefn a'u gwerthu'n rhad. Mae oriau agor y siopau yn amrywio fesul siop felly cofiwch edrych i weld beth yw oriau eich siop leol isod. Os oes gennych chi ddodrefn i'w rhoi, darllenwch ragor am ein gwasanaeth casglu Cartref Caffi HEMS Cyfrannwch i'n siopau Ein Siopau Eitemau na allwn eu derbyn Eitemau na allwn eu derbyn Yn anffodus, mae ychydig o eitemau na allwn eu derbyn am resymau iechyd a diogelwch a chyfreithiol. Rhoi dodrefn a nwyddau cartref Yr ystyriaeth bwysicaf wrth werthu dodrefn a nwyddau cartref yw gwirio a yw'r eitem yn fflamadwy. Pan na fydd gan eitemau labeli neu gyfarwyddiadau diogelwch, allwn ni ddim eu gwerthu'n ddiogel. Rhoi dodrefn clustogog heb label dân (oni bai iddynt gael eu gwneud cyn y 1950au) Rhoi dodrefn gyda darnau anniogel ar goll neu sydd wedi'u difrodi Dodrefn gyda gwydr heb nod barcud arno neu heb wydr tymeredig Canhwyllau heb gyfarwyddiadau neu rybudd diogelwch. Duvets a chlustogau (oni bai eu bod yn eu deunydd pacio gwreiddiol) Matresi unigol heb ffrâm wely Matresi budr neu wedi eu baeddu Llenni rholio neu ddelltog (oni bai eu bod yn eu deunydd pacio gwreiddiol sy'n cynnwys y cyfarwyddiadau diogelwch) Cyfarpar diogelwch Helmedi diogelwch: hetiau diogelwch, beicio, reidio Cyfarpar dringo Cymhorthion hynofedd, siacedi achub a dingis chwyddadwy Unrhyw eitemau symudedd e.e. cadeiriau olwyn, fframiau cerdded, cymhorthion bath Eitemau trydanol Cliniaduron, cyfrifiaduron personol a thabledi Blancedi trydanol Gwelyau haul a chyfarpar tanio Nwyddau gwyn a microdonnau Eitemau hylendid personol megis eillwyr a sbas traed Unrhyw offer pŵer Ffonau symudol E-ddarllenwyr Eitemau Plant Ni allwn dderbyn a gwerthu eitemau a fydd efallai yn anniogel i blant a babanod. Rhwymynnau braich chwyddadwy a modrwyau a wisgir fel cymorth arnofio Teganau heb nod CE arno Dillad nos ac eitemau gwisg ffansi sydd heb label sy'n nodi ei fod yn gwrthsefyll tân. Seddi ceir a seddi cyfnerthol Seddi plant i feicio Bympars cot, matresi cot, matresi pram Offer miniog/Arfau Ni allwn werthu eitemau peryglus am resymau iechyd a diogelwch a chyfreithiol. Arall Eitemau cemegol Unrhyw feddyginiaethau Eitemau sy'n gysylltiedig ag ysmygu, gan gynnwys blychau llwch Poteli dŵr poeth Unrhyw ddyfeisiau nwy neu betrol nwyddau ymolchi a chosmetig agored Bwyd neu nwyddau darfodus Cynhyrchion ffug Gwisgoedd o'r Fyddin gydag enwau neu wisgoedd gan gwmnïau â brand Cerbydau modur neu ddarnau ceir Deunydd hynod sarhaus a/neu wahaniaethol Manage Cookie Preferences