Siopwch gydag Ambiwlans Awyr Cymru

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru nifer o siopau ar draws Cymru a redir gan staff yr Elusen a llu o wirfoddolwyr.

Mae eich eitemau ail-law yn helpu i godi arian hanfodol sy'n cadw ein hofrenyddion yn yr awyr ac ein cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Er nad ydych chi efallai eisiau gwisgo'r gôt a brynoch chi y gaeaf diwethaf mwy, neu os nad ydych yn hoff iawn o'ch bwrdd bwyd erbyn hyn, mae'n debyg y bydd rhywun arall yn awyddus i'w cael, felly pam na wnewch chi, nid yn unig roi bywyd newydd iddynt a'u rhoi i rywun arall, a'u troi yn rywbeth a fydd yn codi arian fydd yn achub bywydau.

Mae ein siopau yn cynnig ffordd gynaliadwy o siopa a helpu i leihau tirlenwi. Rydym yn gwerthu amrywiaeth o eitemau o ansawdd uchel, gan gynnwys dillad, nwyddau'r cartref a dodrefn a'u gwerthu'n rhad.

Mae oriau agor y siopau yn amrywio fesul siop felly cofiwch edrych i weld beth yw oriau eich siop leol isod.


Os oes gennych chi ddodrefn i'w rhoi, darllenwch ragor am ein gwasanaeth casglu

Lleolir Caffi HEMS yn ein siop yng Nghaernarfon, gan weini diodydd poeth, prydau ysgafn a chacennau blasus.