Siopwch gydag Ambiwlans Awyr Cymru

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru nifer o siopau ar draws Cymru a redir gan staff yr Elusen a llu o wirfoddolwyr.

Mae eich eitemau ail-law yn helpu i godi arian hanfodol sy'n cadw ein hofrenyddion yn yr awyr ac ein cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Er nad ydych chi efallai eisiau gwisgo'r gôt a brynoch chi y gaeaf diwethaf mwy, neu os nad ydych yn hoff iawn o'ch bwrdd bwyd erbyn hyn, mae'n debyg y bydd rhywun arall yn awyddus i'w cael, felly pam na wnewch chi, nid yn unig roi bywyd newydd iddynt a'u rhoi i rywun arall, a'u troi yn rywbeth a fydd yn codi arian fydd yn achub bywydau.

Mae ein siopau yn cynnig ffordd gynaliadwy o siopa a helpu i leihau tirlenwi. Rydym yn gwerthu amrywiaeth o eitemau o ansawdd uchel, gan gynnwys dillad, nwyddau'r cartref a dodrefn a'u gwerthu'n rhad.

Mae oriau agor y siopau yn amrywio fesul siop felly cofiwch edrych i weld beth yw oriau eich siop leol isod.


Os oes gennych chi ddodrefn i'w rhoi, darllenwch ragor am ein gwasanaeth casglu

Mae cyfrannu eich eitemau ail law yn ffordd dda iawn o gefnogi ein gwaith sy'n achub bywydau. Os hoffech chi roi dodrefn, siaradwch â'n tîm i drefnu ein gwasanaeth casglu am ddim.

Rydym yn derbyn dodrefn, dillad, llyfrau, DVDs, nwyddau trydanol, nwyddau eraill y cartref a bric-a-brac. I gyfrannu eitemau llai, gadewch nhw yn eich siop leol.

Os nad ydych yn siŵr p'un a allwn dderbyn eich eitem, darllenwch am yr eitemau na allwn eu derbyn ar y dudalen yma


Wyddoch chi?

 

Mae gennym siop ar-lein ble gallwch brynu nwyddau newydd sbon gyda 100% o'r elw yn mynd i ariannu ein gwasanaeth sy'n achub bywydau.