Gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr.

Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis.


.

.

.

"Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru.

Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig."

.

.

.


Mae cwmnïau yn wynebu pwysau cynyddol i gyrraedd terfynau amser, gwella meintiau elw a chynyddu cyfrannau refeniw.

Mae'n hawdd anghofio cymell, gwobrwyo a gwerthfawrogi'r staff sy'n cwblhau'r gwaith hwn wrth geisio ymdopi â'r anawsterau beunyddiol hyn.

Er bod cyflog yn ffactor cymhellol pwysig, nid dyna'r unig ffactor. Mae sicrhau bod y gweithlu yn hapus, yn fodlon ac yn ymgysylltu â moeseg a gwerthoedd y cwmni yn hollbwysig ar gyfer cadw staff ac elw hyd yn oed.

Yn ôl Gallup, “organisations that are the best in engaging their employees achieve earnings-per-share growth that is more than four times that of their competitors.” 

Mae cynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn eich cwmni yn hollbwysig er mwyn datblygu gweithlu cadarn, a chadw'r gweithlu hwnnw.

Pam ddylai cwmnïau helpu o ran gwirfoddoli?

Mae cwmni yn fwy tebygol o gadw staff bodlon. Gall eu galluogi i wirfoddoli yn ystod oriau gwaith helpu i greu'r ymdeimlad hwnnw o foddhad.

Dangosodd Astudiaeth ddiweddar gan PwC: “Employees most committed to their organisations put in 57% more effort on the job—and are 87% less likely to resign—than employees who consider themselves disengaged.”

Mae cwmni sy'n edrych y tu hwnt i'w fusnes ei hun ac yn ystyried buddiannau arallgyfeiriedig yn debygol o fod yn uchel ei barch ac o weld mwy o ddiddordeb yn ei frand.

Mae cyfleoedd i wirfoddoli yn galluogi'r staff i ddatblygu sgiliau a chael profiadau newydd a all fod o werth i'r busnes.

Mae timau sy'n gwirfoddoli gyda'i gilydd yn gryfach ac yn teimlo'n fwy cysylltiedig.

Gellir dod o hyd i arweinwyr tîm newydd drwy drefnu prosiectau gwirfoddoli.

 

Pam ddylai'r staff ymuno â chynllun gwirfoddoli yn y cwmni?

 

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gael profiadau newydd, cwrdd â phobl newydd o wahanol gefndiroedd a rhoi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned.

Yn ôl astudiaeth gan yr UnitedHealth Group, mae pobl sy'n gwirfoddoli yn nodi eu bod yn teimlo'n well yn emosiynol, yn feddyliol ac yn gorfforol – ac maent yn perfformio ar lefelau uwch.

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddefnyddio'r sgiliau rydych wedi'u dysgu yn y gweithle – a datblygu sgiliau newydd y gallwch eu defnyddio yn eich diwrnod gwaith.

Nododd y sawl a ymatebodd i adroddiad Time Well Spent: ESV y Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) sawl mantais o gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli, gan gynnwys teimlo eu bod yn gwneud gwahaniaeth (84%); datblygu sgiliau a phrofiadau newydd (76%); meithrin mwy o hyder (74%); a gweld gwelliannau i'w hiechyd a'u lles meddwl (71%). 

 

Ffyrdd y gall eich cwmni gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli

 

  • Lluniwch gynllun gwirfoddoli – sef cynllun sy'n galluogi staff y cwmni i dreulio cyfnod penodol o amser yn gwirfoddoli, er enghraifft dau ddiwrnod y flwyddyn. Byddant yn cael tâl am y diwrnodau hyn a chânt eu cynnal o fewn polisi sefydlog. Dyma ragor o fanylion am greu polisi gwirfoddoli.
  • Ewch ati i ddewis elusen ar gyfer y flwyddyn a thrafodwch yr elusen gyda'r staff yn ogystal â'r hyn y mae'n ei wneud a sut y gallant helpu i godi arian ar ei chyfer. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnal momentwm drwy gydol y flwyddyn drwy alwadau rheolaidd i weithredu a datblygu'r gweithgareddau codi arian.
  • Cofrestrwch ar gyfer banc sgiliau lle y gall y rheini sydd â sgiliau penodol yn y gweithle helpu ar brosiectau gwirfoddoli unigol. Cysylltwch ag elusennau i weld os yw eich sgiliau'n cyfateb i'w prosiectau.
  • Cynigiwch hyrwyddo elusennau penodol ar fewnrwyd y cwmni, gan nodi pam y dylai cydweithwyr wirfoddoli.
  • Cofrestrwch dimau o adrannau gwahanol ar gyfer digwyddiadau, megis marathon neu ras cychod y ddraig, a chystadlu er mwyn codi'r swm uchaf o arian. Enwch elusen benodol, megis Ambiwlans Awyr Cymru, i dderbyn yr arian.
  • Gwobrwywch y staff sy'n gwirfoddoli. Gall hyn amrywio o wobrwyo'r unigolyn a wirfoddolodd am y nifer mwyaf o oriau drwy roi diwrnod ychwanegol o wyliau iddo, i gydnabod gwirfoddolwyr y cwmni mewn seremoni wobrwyo neu greu cynllun gostyngiadau ar nwyddau/cymhellion y gall staff eu hennill drwy wirfoddoli.
  • Gwahoddwch gynrychiolydd o Ambiwlans Awyr Cymru i roi cyflwyniad i'r staff yn ystod amser cinio er mwyn trafod y sefydliad, a sut y gallant fod yn rhan ohono drwy wirfoddoli.
  • Ar gyfer cwmnïau mwy – gallwch wahodd elusennau i'r cwmni ar gyfer ffair wirfoddoli fach ar ddechrau'r flwyddyn/cynllun gwirfoddoli.
  • Ewch ati i gynnwys cyfleoedd gwirfoddoli mewn ymarfer adeiladu tîm, megis trefnu digwyddiad codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.
  • Ystyriwch lunio cynllun Rhoi Drwy'r Gyflogres. Os bydd cyflogwr, cwmni neu ddarparwr pensiwn personol yn rhedeg cynllun Rhoi Drwy'r Gyflogres, gall cyflogeion roi arian yn uniongyrchol o'u cyflog neu bensiwn.

 

 

Pam dewis Ambiwlans Awyr Cymru?

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gwasanaethu Cymru gyfan bob dydd, ac mae wedi ymateb i dros 35,000 o alwadau ers ei sefydlu yn 2001.

Mae'r elusen yn un o'r brandiau yr ymddiriedir ynddo fwyaf, ac mae hynny'n arwain at bartneriaeth wych â busnesau sy'n gwerthfawrogi egwyddorion dibynadwyedd a helpu eraill ar adegau pwysig.

Ambiwlans Awyr Cymru yw'r gweithrediad ambiwlans awyr mwyaf yn y DU, ac mae'n gweithredu pedwar hofrennydd.

Rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn ers ein sefydlu yn 2001, ac wedi datblygu i fod yn wasanaeth achub bywydau o'r radd flaenaf, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru i Blant.

Fodd bynnag, mae angen eich help arnom o hyd. Ni yw'r unig elusen ambiwlans awyr yng Nghymru, ac sy'n ymrwymedig i Gymru, ac rydym yn dibynnu'n llwyr ar roddion i godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn sicrhau y gall ein hofrenyddion barhau i hedfan.