Gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr.

Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis.


.

.

.

"Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru.

Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig."

.

.

.


Mae gwirfoddoli yn brofiad personol iawn. Fel y dywedwyd unwaith, ‘‘nid oes gan wirfoddolwyr o reidrwydd yr amser; ond mae ganddynt y galon’.

Gall pawb helpu eraill, ond nid yw pob math o wirfoddoli yn addas ar gyfer pob math o berson.

Rydym ni yn Ambiwlans Awyr Cymru yn awyddus i roi'r cyfleoedd mwyaf addas i bob darpar wirfoddolwr.

Er na fydd pob cyfle ar gael yn eich ardal chi o bosibl, rydym yn credu bod gennym rôl sy'n addas ar gyfer pob personoliaeth. Pa un sydd fwyaf addas i'ch personoliaeth chi?

Hyderus a chymdeithasol

Mae sawl rôl a all fod yn addas i chi, ond efallai mai gwaith cymunedol a chodi arian sydd orau. Mae'r rôl hon yn un amrywiol, sy'n cynnwys mynychu digwyddiadau gan gynnwys sioeau a charnifalau.

Mae gwirfoddolwyr hefyd yn helpu gyda bwcedi casglu arian a digwyddiadau hollbwysig gan gynnwys cyflwyno sieciau.

Caiff ein tîm ei wahodd hefyd i roi cyflwyniadau byr ar waith yr elusen, ac i'r rheini sy'n barod i wneud unrhyw beth, beth am achub ar y cyfle i wisgo fel mascot a helpu i godi arian?

Aelod ardderchog o dîm â sgiliau cyfathrebu rhagorol

Efallai y byddai rôl cynorthwyydd fan yn gyfle perffaith i chi.

Rydym yn chwilio am rywun a fyddai'n aelod ardderchog o dîm, sy'n gwrtais ac yn dangos parch at eraill, ac a fydd yn mwynhau bod yn rhan o'r gwasanaeth casglu a dosbarthu.

Byddech yn dosbarthu ac yn casglu nwyddau a roddwyd, yn eu symud o amgylch ein siopau ac yn helpu yn ein depo yn ôl y gofyn.

Yn ddelfrydol, byddech yn gallu defnyddio ffôn clyfar ac yn dda am gynllunio teithiau.

Hyblyg ac addasadwy

Mae'r rôl hon yn addas ar gyfer pobl yn ardal Abertawe, gan ei bod wedi'i lleoli yn ein safle manwerthu prysur yng Nghwmdu.

Byddwch yn gwirfoddoli yn ein stordy yno.

Mae'r rôl hon yn un prysur, a byddwch yn helpu cwsmeriaid sydd wedi rhoi nwyddau ac yn trefnu'r eitemau hynny i gategorïau gwahanol.

Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio'r system gyfrifiadurol ar gyfer rhoddion Cymorth Rhodd, a gofynnir i chi hefyd gyflawni tasgau sylfaenol â llaw.

Methodolegol a threfnus iawn

Mae'r rôl hon yn berffaith os ydych yn gydwybodol ac yn graff.

Byddwch yn helpu'r swyddfa drwy ymgymryd â thasgau gweinyddol a mewnbynnu data, a gallech fod yn creu taenlenni ac yn llunio adroddiadau.

Mae'n bosibl y byddwch hefyd yn anfon llythyrau a gohebiaeth ac yn cyflawni dyletswyddau swyddfa eraill.

Yn ddelfrydol, byddech yn awyddus i ddysgu, ond hefyd yn onest ac yn ddibynadwy ac yn gallu gweithio mewn tîm amrywiol o staff a gwirfoddolwyr.

Os nad ydych yn siŵr pa rôl a allai fod yn addas i chi, edrychwch ar yr holl opsiynau yma, ac wedyn ar y cyfleoedd sydd ar gael yma (link to vacancies page).