Gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr.

Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis.


.

.

.

"Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru.

Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig."

.

.

.


Llongyfarchiadau! Rydych wedi gwneud penderfyniad a allai newid eich bywyd yn sylweddol – yn ogystal â bywydau pobl eraill o bosibl.

Mae gwirfoddoli yn cyflwyno buddiannau sylweddol i'r rheini sy'n rhoi'n garedig o'u hamser, o drechu teimladau ynysig a phroblemau iechyd meddwl i ddysgu sgiliau newydd.

Beth fydd yn digwydd yn Ambiwlans Awyr Cymru pan fyddwch yn cymryd y camau cyntaf i ymuno â'n criw?

Yn gyntaf, ar ôl gweld pa rolau sydd ar gael, gallwch ddod o hyd i ffurflen gais yma. Ewch ati i'w llenwi a dewis y mathau o weithgareddau gwirfoddoli y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Pwyswch y botwm ‘Anfon’ ac arhoswch yn amyneddgar!

Bydd ein cydlynydd gwirfoddoli yn cysylltu â'r rheolwr neu'r cydlynydd yn eich ardal er mwyn dod o hyd i'r cyfleoedd sy'n cyd-fynd orau â'ch dewisiadau.

Yna, bydd y rheolwr a ddynodir i chi yn cysylltu â chi i gael sgwrs fer. Gallai hyn fod wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, a bydd yn eich galluogi i ddysgu mwy am yr elusen a sut mae'n gweithio a phenderfynu os ydych am wneud rhywbeth arbennig iawn.

Os bydd y ddau ohonoch yn hapus i symud ymlaen, caiff pecyn i wirfoddolwyr ei anfon atoch. Nod hyn yw darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am eich gweithgareddau gwirfoddoli o ddydd i ddydd.

Mae'n cynnwys llawlyfr i wirfoddolwyr, ein polisi gwirfoddoli, manylion am eich rôl unigol a mân bethau defnyddiol eraill.

Bydd gofyn i chi lenwi ffurflen gytundeb a darnau eraill o waith gweinyddol... a dyna'r unig beth llafurus y bydd angen i chi ei wneud!

Unwaith y byddwn wedi clywed yn ôl gan eich canolwyr, cewch eich gwahodd i gael sesiynau sefydlu gyda'r rheolwr a ddynodir i chi.

Bydd ef neu hi yn eich cyflwyno i'r tîm ac yn eich helpu ag unrhyw hyfforddiant ar iechyd a diogelwch.

Eich diogelwch yw ein blaenoriaeth, ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod eich profiad o wirfoddoli'n ddiogel ac yn ddifyr.

Yna, byddwch yn barod i ddechrau! Rydym yn sicr y byddwch yn cael amser gwerth chweil, llawn boddhad a hwyl gydag Ambiwlans Awyr Cymru – gan wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl.