Gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr.

Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis.


.

.

.

"Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru.

Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig."

.

.

.


Dyma'r argyfwng iechyd mwyaf sydd wedi wynebu'r genedl bresennol.

Mae'r coronafeirws wedi cael effaith sylweddol ar ein hiechyd ni a'n hanwyliaid, wedi effeithio ar fusnesau, wedi rhoi ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol dan straen aruthrol ac wedi gwahanu teuluoedd.

Ond llwyddodd hefyd i ddod â'r gorau allan o bob un ohonom.

Gwnaeth cannoedd ar filoedd ohonom wirfoddoli i helpu'r GIG pan oedd y sefyllfa o ran y coronafeirws ar ei gwaethaf.

Aethom ati i ddosbarthu eitemau hanfodol, helpu ein cymdogion, clapio i'n nyrsys a'n meddygon dewr a bod yn glust i'r rheini a oedd wedi'u hynysu.

Felly beth yw'r camau nesaf wrth i ni addasu i'r drefn newydd?

A oes ffordd o fanteisio ar botensial y fyddin o wirfoddolwyr sy'n teimlo bod llawer mwy i'w roi a bod mwy o ffyrdd i helpu pobl?

Efallai mai cofrestru i fod yn wirfoddolwr gydag Ambiwlans Awyr Cymru yw'r cam nesaf i chi, neu eich profiad cyntaf o wirfoddoli.

Wrth i'n bywydau brysuro, mae'n werth cymryd eiliad a chofio'r hyn a oedd bwysicaf i ni yn ystod y cyfyngiadau symud: y cysylltiad â'n hanwyliad a bod yn barod i helpu pan oedd angen.

Efallai ein bod wedi methu'r gallu i fynd i dafarnau a siopau, ond methu â chael cwtsh gan ein hanwyliaid oedd anoddaf.

Ein cenhadaeth ni yn Ambiwlans Awyr Cymru yw bod yno i bobl pan fo'i angen arnynt fwyaf.

Nid yw'n cymryd llawer i chi wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau'r rheini rydym yn eu hachub.

O helpu mewn siopau, i ymuno â'n timau mewn digwyddiadau codi arian neu gyflawni tasgau gweinyddol – mae digon o opsiynau i chi ddewis o'u plith.

Os ydych yn teimlo nad oes amser gennych mwyach i gymryd rhan wrth i'ch bywydau fynd yn ôl i'r drefn arferol, cysylltwch â ni: efallai bydd cyfle gennym sy'n addas ar gyfer yr amser sydd gennych i'w roi.

Un peth sy'n sicr yn y byd ansicr hwn yw y bydd bob amser angen achub bywydau.