Gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr.

Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis.


.

.

.

"Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru.

Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig."

.

.

.


Mae ymddeol yn gyfnod hollbwysig ym mywyd unrhyw un – a gall arwain at ymatebion tra wahanol.

I rai – wrth i'r diwrnod olaf o weithio agosáu – maent wedi cyffroi'n llwyr wrth feddwl am roi'r gorau i'r arfer o weithio rhwng naw a phump. Mae eraill yn ofni'r holl amser rhydd sydd i ddod.

Am flynyddoedd, bu eu hunaniaeth yn gysylltiedig â'u gwaith –“beth yw dy swydd di?” – ac efallai bod eu gwaith wedi rhoi ymdeimlad o hunan-fri, gwerth neu barch iddynt.

Gall colli gweithgaredd ‘‘sy'n cael ei werthfawrogi’’ yn sydyn deimlo fel profedigaeth a gwneud i rywun deimlo'n bell o'u ffordd arferol o fyw.

Os yw hyn yn wir amdanoch chi, a'ch bod yn dechrau cyfnod newydd yn eich bywyd, gallech ystyried cael seibiant – blwyddyn i ffwrdd mewn ffordd – i fwynhau eich rhyddid newydd a meddwl am eich dyfodol.

Mae'r byd yn llawn cyfleoedd, ac mae'n werth treulio rhywfaint o amser yn ystyried beth sydd o ddiddordeb i chi neu'n eich cyffroi cyn i chi fentro i'r cyfnod newydd hwn o amser hamdden diderfyn.

I rai, mae gwirfoddoli yn ffordd wych o lenwi rhywfaint o'ch wythnos, helpu eraill a chwrdd â phobl ddiddorol eraill o bob cefndir.

Yn ôl arolwg gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol , mae tua dwy ran o dair o bobl hŷn yn gwirfoddoli gydag o leiaf dwy elusen wahanol – sef tua 2.2. miliwn o bobl dros 60 oed.

Dywedodd y mwyafrif helaeth (83%) eu bod yn gwirfoddoli gan fod gwaith elusen yn bwysig, a dywedodd hanner ohonynt ei fod yn rhoi ymdeimlad o bwrpas i'w bywydau.

Dywedodd rhai ohonynt hyd yn oed ei fod yn gyfle iddynt gael amser hanfodol i ffwrdd o'u partner.

Beth bynnag fo'ch rheswm, mae elusen sy'n addas ar eich cyfer.

Mae gennym amrywiaeth o rolau gwirfoddoli yn Ambiwlans Awyr Cymru sy'n addas ar gyfer eich sgiliau presennol – o sgiliau cyflwyno a siarad cyhoeddus, i waith gweinyddol, helpu yn ein siopau neu ymuno â chriw ein stordy.

Beth bynnag fo'ch personoliaeth – os ydych yn hoffi cwrdd â phobl newydd neu os byddai'n gwell gennych drefnu a rhoi prisiau ar ddillad – mae gennym rôl sy'n addas i chi.

Gallwch hefyd ddysgu sgiliau newydd, sy'n hollbwysig wrth ymddeol, yn ogystal â chael profiadau newydd, bythgofiadwy.

Mae cadw'n heini ar ôl ymddeol yn wych ar gyfer eich iechyd corfforol a meddyliol ac yn aml iawn, mae cael trefn wythnosol yn hollbwysig i fywydau pobl.

Felly, os ydych yn ystyried gwirfoddoli neu ar fin ymddeol, dysgwch fwy am yr hyn sydd gennym i'w gynnig yma neu llenwch y ffurflen gais yma.