Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi buddsoddi mewn nyrs cyswllt cleifion newydd ar gyfer gogledd Cymru, gogledd Powys a gogledd Ceredigion.

Mae Hayley Whitehead-Wright, o'r Trallwng, yn cefnogi cleifion a'u teuluoedd yn dilyn digwyddiadau a fynychwyd gan Ambiwlans Awyr Cymru fel rhan o wasanaeth ôl-ofal newydd yr Elusen. Mae hyn yn cynnwys cymorth profedigaeth ar gyfer y sawl sydd wedi colli anwyliaid.

Dechreuodd Hayley, mam i un sy'n byw gyda'i phartner Matt yn Wrecsam, yn ei rôl newydd yn ddiweddar. Mae hi'n ymuno â Jo Yeoman sy'n Nyrs Cyswllt Cleifion gan gwmpasu de Cymru, de Powys a de Ceredigion.

Mae Hayley yn nyrs brofiadol gyda mwy na 15 mlynedd mewn rolau gofal iechyd. Uwch staff-nyrs ar Uned Gofal Dwys Ysbyty Maelor Wrecsam oedd ei swydd flaenorol, a hynny am yn agos at 13 o flynyddoedd. Treuliodd Hayley ddeg mlynedd o’i gyrfa hefyd fel rhan o’u tîm cefnogi a phrofedigaeth, a oedd yn cynnig cefnogaeth i gleifion a’u perthnasau a oedd wedi treulio amser yn yr Uned. 

Ynglŷn â'r gwasanaeth ôl-ofal, dywedodd Hayley: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn mynychu argyfyngau sy'n peryglu bywydau ac yn achosi anafiadau difrifol ledled Cymru. Mae'n debygol y bydd y bobl a driniwyd gan ein criwiau wedi profi digwyddiad sydyn a thrawmatig. Yn aml, ni fydd cleifion yn cofio'r digwyddiad o gwbl neu bydd ganddynt atgofion annymunol. Mae gwella yn daith hir ac yn broses anodd, ac mae profiad pawb yn wahanol


“Mae ein gwasanaeth ôl-ofal ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a all fod gan gleifion a'u hanwyliaid am y driniaeth a gawsant a gallwn lenwi unrhyw fylchau i'w helpu i ddeall yr hyn a ddigwyddodd.

“Weithiau, gall y daith beri straen a dryswch, gan adael y rhai a oedd yno yn teimlo ar goll ac yn ansicr am yr hyn sydd o'u blaenau. Rydym yma i helpu ein cleifion, gyda'n gofal critigol uwch yn dilyn digwyddiad, a hefyd drwy'r broses o wella. Mae'r broses yn wahanol i bawb ond, yn aml, gall gymryd mwy o amser na'r disgwyl, yn gorfforol ac yn seicolegol.

“Yn anffodus, mae adegau pan fydd ein cleifion yn marw. Mae colli anwylyd yn brofiad personol a thorcalonnus. Mae ein gwasanaeth yma hefyd i gefnogi teuluoedd a ffrindiau sy'n galaru yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae cyflwyno ein gwasanaeth ôl-ofal yn ddatblygiad pwysig yn ein nod i gynnig y gofal gorau posibl i bobl Cymru.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dadansoddi'r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu ledled Cymru yn barhaus ac yn chwilio am gyfleoedd i wella'r gofal uwch a ddarparwn ar gyfer y sawl mewn angen. O ganlyniad, gwelsom gyfle i gynnig cymorth o'r radd flaenaf y tu hwnt i ddigwyddiad. Diolch i'n gwasanaeth ôl-ofal newydd, ni yw un o'r cyntaf i fod wrth ochr rhywun mewn angen, ac erbyn hyn ni yw un o'r olaf i'w gadael yn dilyn eu hadferiad, gan sicrhau eu bod yn cael cymorth ac arweiniad hanfodol ar hyd y ffordd.

“Rydym wrth ein boddau bod Hayley wedi ymuno a'n gwasanaeth ôl-ofal newydd, yn cynnig cymorth ledled canolbarth a gogledd Cymru.”

Wrth siarad am ymuno â'r Elusen, dywedodd Hayley, yn llawn balchder: “Cefais gyfle anhygoel i ymuno â thîm Ambiwlans Awyr Cymru fel y Nyrs Cyswllt Cleifion newydd, gan weithio ochr yn ochr â’r anhygoel Jo Yeoman.

“Mae fy rôl yn werth chweil ac mae pawb wedi bod yn hynod o gyfeillgar a chroesawgar. Mae gallu cefnogi cleifion a'u teuluoedd mewn cyfnod sy'n aml yn drawmatig iawn yn gymaint o fraint. Rwy'n edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol wrth i'r gwasanaeth ôl-ofal barhau i ddatblygu ac rwy'n llawn cyffro am ddyfodol yr Elusen.”

Ariennir rôl Hayley drwy grant Hospital Saturday Fund.

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Yn ddiweddar, mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi sefydlu adran newydd ar ei gwefan, lle gall cyn gleifion ac aelodau o’u teuluoedd gael gwybodaeth a chymorth gwerthfawr. Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.ambiwlansawyrcymru.com/cymorth-cleifion1