Y Cestyll Gyda llawer o gestyll prydferth ledled Cymru, roedd yn anodd dewis 12 yn unig, ond dyma rai ffeithiau diddorol am y rhai rydym wedi'u dewis fel rhan o'n her: Castell Caernarfon Caiff Castell Caernarfon ei adnabod ledled y byd fel un o'r adeiladau mwyaf o'r Canol Oesoedd. Cymerodd y prosiect adeiladu enfawr hwn 47 o flynyddoedd yn y pen draw a, gan gostio £25,000. Mewn arian heddiw, byddai hynny tua £29,128,384.42! Castell Gwrych Adeiladwyd Castell Gwrych rhwng 1812 a 1822 gan Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh fel cofeb i hynafiaid ei fam. Plasty yng Ngogledd Cymru yw Castell Gwrych, un o'r cynigion cyntaf i efelychu pensaernïaeth go iawn o'r canol oesoedd. Castell Gwrych oedd cartref ‘I'm a Celebrity...Get Me Out of Here!’, rhaglen deledu boblogaidd ITV, yn 2020. Castell Carreg Cennen Credir bod y castell cyntaf ar y safle wedi cael ei adeiladu gan yr Arglwydd Rhys, Tywysog y Deheubarth yng Nghymru, ar ddiwedd y 12fed ganrif. Yn ystod Rhyfel y Rhosynnod, roedd perchnogion Carreg Cennen ar ochr y Lancastriaid. Ar ôl i'r Iorciaid ennill yn 1461, ystyriwyd bod y Castell yn ormod o fygythiad i'r frenhiniaeth a chafodd ei ddinistrio y gwanwyn canlynol. - Castell Caerffili Castell Caerffili oedd y castell mwyaf yng Nghymru pan gafodd ei adeiladu yn 1268. Mae deirgwaith maint Stadiwm Principality. Mae gan y castell ei Dŵr Cam ei hun. Mae'n gwyro mwy na thŵr Pisa! - Castell Dinas Bran Mae “Dinas Bran” yn cael ei gyfieithu i'r Saesneg fel “Crow Castle,” “Crow City,” “Hill of the Crow,” neu “Bran's Stronghold”. Adeiladwyd y cadarnle yn yr 1260au gan y rheolwr lleol, Tywysog Gruffudd ap Madog, ar safle caer cynhanesyddol. - Castell Penfro Adeiladwyd Castell Penfro yn 1093 gan Arnulf de Montgomery. Hwn yw'r unig gastell ym Mhrydain i gael ei adeiladu ar geudwll naturiol. Cafodd Harri Tudur, a ddaeth yn Harri VII, ei eni yng Nghastell Penfro yn 1457. - Castell Llansteffan Cafodd y Castell ei adeiladu yn wreiddiol ar ddechrau'r 12fed ganrif, gan orchfygwyr Normanaidd Prydain ar safle caer o'r Oes Haearn. Ar ddiwedd y 15fed ganrif, gadawyd y Castell mewn cyflwr gwael ond yn ystod y 19eg ganrif dechreuwyd gwaith i adfer y Castell yn rhannol. - Castell Caergwrle Credir i'r Castell gael ei adeiladu gyntaf gan Dafydd ap Gruffydd, ar diroedd a roddwyd iddo gan Edward I ar ôl yr ymgyrch gyntaf yng Nghymru yn 1277. Mae ei bensaernïaeth wedi'i ddylanwadu gan ddyluniadau cestyll yng Nghymru a Lloegr. Cafodd ei ddinistrio ar ddamwain gan dân yn 1283 ac yna cafodd ei adael. - Castell Powys Cafodd Castell Powys ei adeiladu yn ystod canol y 13eg ganrif gan un o Dywysogion Cymru - Gruffudd ap Gwenwynwyn - a oedd am sefydlu ei annibyniaeth oddi wrth ei elynion traddodiadol. Mae wedi cael ei ailfodelu a'i addurno ers dros 400 mlynedd i ddiwallu anghenion y rhai oedd berchen arno – gan symud yn araf o fod yn gaer i fod yn gartref. Mae Castell Powys hefyd yn adnabyddus am ei ardd wedi'i thirlunio, a ddatblygwyd yn ystod y 17eg a'r 18fed ganrif. Castell Cydweli Dechreuodd Cydweli ar ddechrau'r 12fed ganrif fel castell cylchfur Normanaidd wedi'i adeiladu o bren ac ond wedi'i amddiffyn gan glawdd pridd a ffos. Erbyn yr 1280au roedd y brodyr Chaworth, arglwyddi pwerus y Mers, wedi creu'r ‘castell o fewn castell’ carreg sy'n sefyll hyd heddiw. - Castell Harlech Cafodd Harlech ei gwblhau o'r tir i fylchfuriau mewn dim ond saith mlynedd. Dywedir bod ‘Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech’ neu ‘Men of Harlech’, cân y mae cefnogwyr rygbi a bandiau catrawd yn ei mwynhau, yn disgrifio'r gwarchae a ddigwyddodd yn y Castell yn ystod Rhyfel y Rhosynnod. - Castell Caerdydd Y Rhufeiniaid oedd y cyntaf i adeiladu caer ar safle Castell Caerdydd yn 1OC. Yn ystod yr 11eg ganrif, adeiladodd y Normaniaid orthwr ac yna yn ystod y 15fed ganrif dechreuodd Arglwyddi Morgannwg waith ar y Tŷ. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gyda'r bygythiad o gyrchoedd awyr gan y Luftwaffe, defnyddiwyd y twneli sy'n rhedeg o dan y castell fel llochesau cyrch awyr. Manage Cookie Preferences