Codi arian ar-lein i Cerdded Cymru Tal mynediad i Cerdded Cymru ydi £10 ond gallwch cael eich noddi at eich sialens hefyd. Mae cofrestru ar gyfer Cerdded Cymru am ddim, ond byddem yn hoffi i chi gasglu arian nawdd ar gyfer eich her. Wyddech chi mai creu tudalen codi arian ar-lein gyda JustGiving yw un o'r ffyrdd cyflymaf a hawsaf o gasglu arian nawdd? P'un a ydynt yn agos neu'n bell, rhannwch ddolen eich tudalen â theulu a ffrindiau fel y gallant eich noddi ar unrhyw adeg. Pam creu tudalen JustGiving? Os nad oes gennych dudalen yn barod, mae creu tudalen JustGiving yn golygu: bod yr arian rydych yn ei godi yn mynd i'n helusen yn uniongyrchol. y gall noddwyr fod yn sicr bod eu rhoddion yn ddiogel. y gall eich cefnogwyr adael negeseuon personol o gymorth neu aros yn ddienw. eich bod yn cael mynediad am ddim at ganllaw codi arian, ac adran help helaeth. Manage Cookie Preferences