Pam cymryd rhan? Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod heriol iawn i bawb, gan gynnwys ein helusen. Drwy gydol y pandemig, rydym wedi aros wrth law ar gyfer pobl Cymru, gan gefnogi ein cydweithwyr yn y GIG a chwarae rhan fawr yn yr ymateb meddygol i COVID-19. Rydym wedi gallu gwneud hyn diolch i'ch haelioni anhygoel. Mae llawer o'r ffyrdd rydym yn codi arian wedi gorfod dod i ben, am y tro, er mwyn atal lledaeniad y feirws ond mae'n golygu ein bod wedi gweld gostyngiad sylweddol yn yr arian a godwyd er mwyn cynnal ein gwasanaeth sy'n achub bywydau. Drwy gymryd rhan yn her ‘Cerdded Cymru – Castell i Gastell’, byddwch yn cynnal eich llesiant corfforol a'ch llesiant meddyliol, yn ogystal â chwarae eich rhan er mwyn cadw ein hofrenyddion yn yr awyr. Mae manteision anhygoel i gerdded hefyd: Mae cerdded yn gyfle gwych i ailgysylltu â ffrindiau a theulu (os yw'r Llywodraeth yn caniatáu hyn). Gall cerdded wella ffitrwydd. Mae cerdded yn dda i'n hiechyd meddwl – gall wella eich hwyliau, eich llesiant a'ch lefelau egni, gan leihau eich lefelau straen, gorbryder ac iselder. Gall cerdded helpu i ostwng pwysedd gwaed gan gryfhau eich calon a'ch cyhyrau. Os yw hwn yn rhywbeth yr hoffech chi ei wneud, gwisgwch eich esgidiau rhedeg, eich esgidiau cerdded, neu'ch slipers a chymerwch ran yn her 'Cerdded Cymru’. Cofrestru Manage Cookie Preferences