Rydym yn chwilio am gefnogwyr i ymgymryd â'r her ‘Cerdded Cymru 2021 – Castell i Gastell’.

Mae angen i'n Helusen godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw ein pedwar hofrennydd yn yr awyr yn gwasanaethu Cymru ac yn achub bywydau 24 awr y dydd. Drwy gymryd rhan, byddwch yn ein helpu i weithio tuag at y targed hwn.

Mae her Cerdded Cymru yn gyfle gwych i fynd allan, cadw'n heini a chodi arian i achos haeddiannol.

Tal mynediad yn £10 - fe dderbyniwch tlws bren cynaladwy pwrpasol wedi ei wneud yn lleol ynghyd a e-dystysfrif yn dilyn y digwyddiad.

Ymunwch â ni ym mis Mehefin ac ewch gam ymhellach drwy gerdded y pellter cyfatebol rhwng rhai o gestyll hanesyddol Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma. 


Booking for this event has now closed.