Cyhoeddwyd: 15 Ebrill 2024

Mae cwpwl o Dorfaen wedi codi arian hanfodol ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru drwy gymryd rhan yn nigwyddiad mwyaf newydd yr elusen.

Yn ddiweddar, cynhaliodd y Cynghorydd Catherine Bonera a'i gŵr, Steven, sy'n gweithio i gwmni TG fel Ymgynghorydd Office 365, ddigwyddiad Coffi a Chacen eu hunain, a chodi dros £360.

Lansiodd Ambiwlans Awyr Cymru ei digwyddiad codi arian Coffi a Chacen yn gynharach eleni, gan annog cefnogwyr ledled Cymru a thu hwnt i ymuno â nhw drwy ddathlu ei phenblwydd yn 23.

Mae Catherine, sy'n cynrychioli ward St Dials, yn cefnogi'r Elusen Cymru Gyfan drwy gynnal ei Loteri sy'n Achub Bywydau bob mis. Pan ddywedodd Steven bod ei gyflogwyr yn annog staff i gymryd rhan mewn digwyddiad cymunedol, dechreuodd y pâr gynllunio'r digwyddiad codi arian.

Dywedodd: “Roeddem yn siarad am yr hyn y gallwn ei wneud pan wnes i ddod ar draws neges ar y cyfryngau cymdeithasol gan Ambiwlans Awyr Cymru am y fenter Coffi a Chacen, roedd fel petai'n siarad â mi.”

O fewn diwrnodau, roedd y Boneras wedi trefnu lleoliad, sef Clwb Sant Joseff yn St Dials – a gafodd ei gynnig yn garedig am ddim.

Ychwanegodd y Cynghorydd Bonera, wedi rhyfeddu gan nifer y bobl a ddaeth: “I ddechrau, dim ond ystafell fach oedd gennym oherwydd roeddwn yn meddwl y byddai ond yn ddigwyddiad bach. Ond wrth i ni ychwanegu'r stondinau a'r byrddau er mwyn eistedd – roeddem yn meddwl y byddem yn paratoi ar gyfer tua 30 o bobl; daeth tua chant o bobl yn y pen draw.”

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu

meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Dywedodd y Cynghorydd Bonera mai'r syndod mwyaf iddi hi oedd y nifer o bobl nad oeddent yn ymwybodol bod Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar gyfeillgarwch unigolion sy'n codi arian a gwirfoddolwyr.

Dywedodd Catherine: “Pan wnaethom sôn am y rheswm dros gynnal y digwyddiad codi arian, gan mai elusen yw Ambiwlans Awyr Cymru, cafodd llawer o bobl eu synnu. Pan gawsant wybod, roeddent yn

awyddus iawn i gefnogi.

“Dywedodd un cwpwl wrtha i eu bod wedi adnabod pobl yr oedd angen y gwasanaeth arnynt. Ysgogodd drafodaethau yn y gymuned am Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n ardderchog.”

Mae gan y Cynghorydd Bonera lawer o brofiadau o drefnu digwyddiadau, ond dywedodd fod y broses yn haws oherwydd y cymorth a roddir gan yr elusen. Dywedodd: “Oherwydd fy hanes o drefnu digwyddiadau o'r newydd, o'r pecynnau i'r rafflau, i fynd at bobl ac i hysbysebu ar Facebook, rwy'n meddwl ei fod yn hawdd iawn.

“Ond i'r rhai sydd heb brofiad, mae'r wefan a'r pecyn codi arian a ddarperir yn esbonio ei hun ac yn helpu'n fawr.”

Caiff yr elusen ei hariannu gan bobl Cymru, ac mae'n dibynnu'n gyfan gwbl ar roddion elusennol i godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru.

Dywedodd Mark Stevens, Pennaeth Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr i gymuned St Dials am gefnogi digwyddiad Coffi a Chacen Catherine a Steve!

“Yn ôl pob sôn, roedd yn ymdrech tîm, ac rydym yn falch bod cynifer o bobl wedi mwynhau'r diwrnod.

“Diolch yn arbennig i Catherine a Steve am gynnal y digwyddiad. Mae'r mathau hyn o ddigwyddiadau yn allweddol i'n helpu i gyrraedd ein targed codi arian o £11.2 miliwn bob blwyddyn, er mwyn ein galluogi i wasanaethu pobl Cymru, ac i achub bywydau.”