Cyhoeddwyd: 15 Ebrill 2024

Mae menyw o Rondda Cynon Taf, yr oedd angen help Ambiwlans Awyr Cymru arni, wedi codi dros £5,000 ar gyfer yr Elusen Cymru gyfan.

Dim ond 27 oed oedd Sarah Jones pan wnaeth ddioddef ataliad y galon yn ei gwaith y llynedd. Rhoddodd Emileigh, ei ffrind a'i chydweithiwr 'dewr ac anhunanol', ddadebriad cardio-anadlol (CPR) iddi hyd nes y cyrhaeddodd y parafeddygon a chymryd ei gofal drosodd.

Cafodd Ambiwlans Awyr Cymru ei galw yn yr awyr a gwnaethant gyrraedd y lleoliad i roi cymorth i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.

Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru yn cael ei darparu drwy bartneriaeth Sector Cyhoeddus a Thrydydd sector unigryw rhwng Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).

Caiff ei arwain gan feddygon ymgynghorol, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf.

Derbyniodd Sarah ofal critigol uwch gan griw Ambiwlans Awyr Cymru; gofal a fyddai fel arfer ond ar gael mewn amgylchedd ysbyty. Roedd hyn cynnwys cael anesthetig cyffredinol drwy diwb yn y fan a'r lle. Fel y dywedodd Sarah, heb y lefel honno o ofal, 'ni fyddwn i yma heddiw’.

Er mwyn dangos ei gwerthfawrogiad tuag at yr elusen sy'n achub bywydau, ac i nodi blwyddyn ers ataliad y galon, trefnodd Sarah ddigwyddiad ei hun i godi arian.

Dywedodd Sarah: “Roeddwn eisiau codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru am eu bod wedi achub fy mywyd. Bydda i'n ddiolchgar iddynt oll am byth.”

Daeth teulu a ffrindiau ynghyd i'r noson elusennol lwyddiannus, a gynhaliwyd ynn nghanolfan Pentre Legion, Rhondda Cynon Taf, i fwynhau noson llawn gemau, ocsiwn a raffl. Gwnaethant godi swm anhygoel o £5,082.

Wrth fyfyrio ar faint o arian gafodd ei godi, dywedodd Sarah â balchder: “Roeddwn i'n falch iawn o'r swm o arian a godwyd. Nid oedd gennyf darged penodol o arian i'w godi, ond roeddwn wedi rhyfeddu gyda'r ymateb gan bawb ac yn ddiolchgar iawn i'r nifer o fusnes lleol a gyfrannodd wobrau ar gyfer y raffl, yn ogystal ag i'r teulu a ffrindiau a gyfrannodd ac a ddaeth i'r noson elusennol."

Cafodd Sarah ddiffibriliwr cardiaidd mewnblanadwy (ICD) wedi'i osod pan oedd yn yr ysbyty, ac mae wedi gwella'n dda yn gorfforol ers yr ataliad ar y galon, ond mae hi'n dal i fynd am archwiliadau'n rheolaidd.

"Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl ofal a'r cymorth a roddodd staff yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty'r Faenor i mi a fy nheulu yn ystod fy nghyfnod o adferiad yno. Rwy'n ddiolchgar hefyd i Sam, fy narpar ŵr, a gweddill fy nheulu am fod wrth fy ymyl drwy gydol y profiad, ac i bawb a anfonodd eu dymuniadau gorau a'u cefnogaeth i mi yn ogystal â fy nheulu." ychwanegodd Sarah.

Dangosodd Jonathan Miles, ewythr Sarah, pa mor ddiolchgar yr oedd i Ambiwlans Awyr Cymru drwy redeg Marathon Manceinion y llynedd. Cododd swm gwych o £1,070 at yr achos.

Caiff yr elusen ei hariannu gan bobl Cymru, ac mae'n dibynnu'n gyfan gwbl ar roddion elusennol i godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru.

Dywedodd Laura Coyne, Rheolwr Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: "Am iddi brofi budd yn uniongyrchol gan ein gwasanaeth, mae Sarah yn gwybod pa mor hanfodol yw ein gwasanaeth i bobl Cymru. Roedd Sarah eisiau cefnogi'r Elusen drwy ei noson codi arian er mwyn helpu i ariannu ein galwadau, fel bod modd i ni fod o gymorth i eraill ledled Cymru. Rydym yn hynod ddiolchgar am ei chefnogaeth. Diolch yn fawr iawn i Jonathan, ewythr Sarah, am redeg Marathon Manceinion ar ein rhan. Mae'r gefnogaeth gan y teulu cyfan wedi bod yn hyfryd iawn.

"Diolch i bawb a gefnogodd Sarah a Jonathan gyda'u hymgyrchoedd codi arian. Bydd yr arian a godwyd gan y ddau yn ein galluogi i wasanaethu pobl Cymru, ac i achub bywydau."