Cyhoeddwyd: 11 Mawrth 2024

Cynhaliodd Cyfrinfa Pen-y-bont y Seiri Rhyddion ddigwyddiad codi arian llwyddiannus er mwyn helpu elusen i Gymru gyfan.

Cyfrannodd aelodau'r gyfrinfa wobrau at y raffl a gynhaliwyd ar ôl trafodion cyfarfod. Rhoddwyd gwerthiannau'r tocynnau a rhoddion eraill i gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn unig, a chodwyd y swm anhygoel o £600.

Roedd Meistr y Gyfrinfa, y Brawd Anrhydeddus Lee K. Page, yn llwyr gefnogi'r penderfyniad i godi arian at yr achos.

Dywedodd: “Mae cefnogi'r achos hwn yn hynod bwysig gan fod Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei hariannu gan bobl Cymru. Rwy'n gwybod bod yr Elusen yn gweithredu ambiwlansys awyr mwyaf datblygedig y DU, gan arbed amser gwerthfawr ac, yn y pen draw, achub bywydau. 

“Roedd fy ngwraig, Liane, a minnau yn meddwl ei bod yn hynod bwysig darparu cymorth ariannol, gan ei bod yn dibynnu'n gyfan gwbl ar roddion elusennol i godi £11.2 miliwn y flwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru.”

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen. 

Gwnaeth Bill Wilson, Stiward Elusen Cyfrinfa Pen-y-bont Rhif 6743, gydnabod yr angen i gefnogi gwaith yr elusen hefyd. Dywedodd: “Mae'r elusen ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae'n darparu cymorth meddygol hanfodol ledled Cymru pryd bynnag a ble bynnag y bo angen hynny, yn aml o dan amgylcheddau heriol. Mae'r rhodd a wnaed drwy ein digwyddiad codi arian yn helpu unigolion a theuluoedd i gael gofal critigol cyflym.”

Dywedodd Barbara Williams, gwirfoddolwraig gydag Ambiwlans Awyr Cymru: “Bu'n fraint i mi fod yn bresennol yn yr achlysur cyflwyno yng Nghyfrinfa Pen-y-bont y Seiri Rhyddion ac rydym yn ddiolchgar iawn am ein cefnogaeth i'n helusen. Bydd y rhodd hael yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru. Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran, rydych wedi codi'r swm anhygoel o £600. Diolch i chi am gefnogi ein hachos, rydym yn gwerthfawrogi hyn yn fawr.”

Roedd Byron F. Butler hefyd yn bresennol yn yr achlysur cyflwyno diweddar, a dywedodd: “Rwy'n falch o weld y gyfrinfa yn cefnogi'r achos hwn, gan ei fod yn rhoi gofal ymateb cyntaf hanfodol i'r rhai yn ardaloedd trefol a gwledig Cymru, ac mae'n dangos sut mae Seiri Rhyddion yn cefnogi'r holl gymuned.”