Cyhoeddwyd: 15 Ebrill 2024

Mae cannoedd o feicwyr brwd yn paratoi ar gyfer reid a hanner i helpu Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn gynnar ym mis Ebrill.

Hon yw ail flwyddyn Reid Round Ribbon Cymru sy'n codi arian ar gyfer elusennau sy'n ymwneud â beiciau modur.

Mae'r trefnwyr yn gobeithio curo'r £10,000 a godwyd yn ystod eu digwyddiad cyntaf yn 2023, gyda rhagor o leoliadau wedi cael eu hychwanegu at lwybr y daith i ymdopi â'r galw.

Mae dros 700 o bobl wedi cyn-gofrestru, ac mae tua 400 o leoedd ar gael ar gyfer dydd Sul 7 Ebrill 2024.

Dywedodd Tyrone Robert Stevenson, Cadeirydd Round Ribbon: "Rydym wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel ein helusen am ei bod wedi achub sawl bywyd beiciwr yng Nghymru dros y blynyddoedd, felly roedd yn ddewis amlwg i ni."

"Gwn fod y cyhoedd bob amser yn syfrdanu pan fyddant yn cael gwybod bod elusennau fel Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion, felly roedd yn ddewis awtomatig i ni. Cafodd y penderfyniad ei gymeradwyo gan bob aelod o'r pwyllgor am ein bod yn gwybod mai o ymgyrchoedd fel hyn y mae'r arian yn dod.

"Yn syml, os nad yw'n dod gennym ni, nid oes ambiwlans awyr."

Mae gan y rheini a fydd yn cymryd rhan y dewis i gynllunio eu taith fel rhan o'r "Your Ride, Your Route" a gallant ddewis lle yr hoffent ddechrau.

Bydd yn rhaid iddynt ymweld â phedwar lleoliad arall, lle byddant yn cael stamp i ddangos eu bod wedi bod yno, cyn gorffen yn eu man cychwyn. Bydd pob un ohonynt yn cael rhuban fel cydnabyddiaeth eu bod wedi cwblhau'r daith.

Y lleoliadau cychwyn yw Baffle Haus/Baffle Culture, Caffi Moto Bites, La Luna Coffee, The Somerset Arms ym Mhort Talbot, Woodrow's - Cyfarpar Beiciau Modur, Café & Events, UN1T 7, HMY, Celtic Scooters a Motorcycles/Monster Road Café, Two Hoots Team Room, The Black Mountain Lodge ac Owl’s Nest Tea Room Diner.

Ychwanegodd Tyrone: "Mae pob lleoliad wedi bod yn gefnogol iawn o'r ymgyrch ac wedi talu am y tocynnau, y rhubanau ar gyfer y reidwyr yn ogystal â deunyddiau eraill ar gyfer y diwrnod.

"Mae eu cyfraniad caredig yn golygu y bydd pob £10 a delir gan bobl am eu tocyn mynediad yn mynd yn syth i'r elusen."

Bydd dros 160 o bobl yn gwirfoddoli ar y diwrnod, a dywedodd Tyrone: "Bydd y gwirfoddolwyr yn chwarae rôl allweddol ar y diwrnod, gan sicrhau fod pethau'n symud yn esmwyth. Byddant yn rhoi stamp ar gardiau'r reidwyr fel na fyddant yn gorfod sefyll o gwmpas yn disgwyl a bod modd iddynt ddechrau ar eu taith. Oni bai amdanyn nhw, ni fyddai'r digwyddiad hwn yn sicr yn gallu mynd yn ei flaen!"

Caiff yr elusen ei hariannu gan bobl Cymru, ac mae'n dibynnu'n gyfan gwbl ar roddion elusennol i godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru.

Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).

Dywedodd Mark Stevens, Pennaeth Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydym yn ddiolchgar iawn i'r trefnwyr am ddewis ein cefnogi ni, ac i'r holl feicwyr sydd wedi cofrestru i Reid Round Ribbon Cymru eleni.

"Mae ein gwasanaeth yn dibynnu ar ddigwyddiadau fel hyn i'n helpu i gyrraedd ein targed codi arian pob blwyddyn er mwyn darparu ein gwasanaeth ledled Cymru.

"Diolch i'n partneriaeth anhygoel â'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, rydym yn 'adran achosion brys sy'n hedfan', sy'n darparu gofal critigol uwch ar leoliad digwyddiad - gan gynnig triniaethau o safon ysbyty ar leoliad.

"Drwy godi arian ar gyfer ein helusen sy'n achub bywydau, rydych yn ein galluogi i helpu'r rheini mewn sefyllfa sy'n bygwth bywyd neu rannau o'r corff. Pob lwc a diolch eto i bawb sy'n cymryd rhan.” Os hoffech gofrestru am y digwyddiad, ewch i: Round Ribbon Cymru - Cofrestru â'r Digwyddiad