Taliad: Cost pob tocyn yw £1. Gallwch brynu mwy nag un tocyn hyd at uchafswm o 10 tocyn fesul raffl. Rhaid talu ymlaen llaw er mwyn cymryd rhan yn y Loteri Achub Bywyd, a hynny drwy Ddebyd Uniongyrchol, siec neu gerdyn debyd/credyd. Os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol misol, bydd £4.34 (neu’r swm lluosog os oes gennych fwy nag un llinell o rifau) yn cael ei gasglu’n syth o’ch cyfrif banc. Gellir trefnu taliadau Debyd Uniongyrchol dros y ffôn, ar ein gwefan neu drwy fandad ysgrifenedig. Mae’r mandad Debyd Uniongyrchol ar gael ar gefn ein taflenni neu gan ein swyddfa. Gallwch hefyd drefnu taliad Debyd Uniongyrchol ar ein gwefan. Os ydych wedi dewis talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, byddwch yn cael Llythyr Hysbysu Ymlaen Llaw. Manage Cookie Preferences