• Gellir canslo aelodaeth ar unrhyw adeg, er na fydd unrhyw gais o’r fath a geir ar ôl 17.00 ar nos Iau o bosibl yn cael ei weithredu tan ar ôl y raffl wythnosol. Os ydych yn talu drwy archeb sefydlog neu gerdyn debyd / credyd yn rheolaidd, yna rhaid i chi ganslo yn ysgrifenedig drwy’r post neu e-bost. Er mwyn canslo taliadau cerdyn, rhaid i chi roi eich manylion cerdyn gwreiddiol i ni. Cysylltwch â’r Adran Loteri yn Llanelli am gymorth pellach.
  • Rydym yn cadw’r hawl i wrthod cais neu ganslo tanysgrifiad cyfredol yn ôl ein disgresiwn llwyr. Gellir ailystyried unrhyw benderfyniad o’r fath os cyflwynir apêl ysgrifenedig i Reolwr y Loteri cyn pen 7 diwrnod. Bydd penderfyniad Rheolwr y Loteri yn derfynol.