• Mae Deddf Gamblo 2005 yn cadarnhau bod gan Ambiwlans Awyr Cymru ddyletswydd statudol i ddilysu bod aelodau yn 16 neu’n hŷn, sef yr oedran gofynnol ar gyfer chwarae’r Loteri Achub Bywyd. Mae’n drosedd i unrhyw un o dan 18 oed chwarae loteri. Bydd Ambiwlans Awyr Cymru, lle y bo’n briodol, yn cynnal gwiriadau er mwyn dilysu’r gofyniad hwn, gan gynnwys gofyn am gadarnhad gan Asiantaethau perthnasol a all ddarparu’r cyfryw wybodaeth, os oes angen.
  • Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnal Loteri Gymdeithasol ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru, gyda’r unig nod o godi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod y loteri’n cael ei chynnal mewn ffordd ddiogel, deg a chymdeithasol gyfrifol, ac i gefnogi gamblo diogel ymhlith yr aelodau. Darllenwch ei Polisi Hapchwarae llawn yma.