• Unrhyw gynigion neu ohebiaeth a gaiff eu colli, eu dwyn neu eu hoedi yn y post, eu difrodi neu sy’n annarllenadwy, gan olygu na ellir adnabod yr enillydd, neu unrhyw gynigion neu ohebiaeth heb stamp digonol arnynt (nid yw prawf eich bod wedi postio’r eitem yn brawf ei bod wedi’i derbyn);
  • Unrhyw daliadau banc hwyr;
  • Methiant neu anallu’r Trwyddedai i gysylltu â chi a/neu ddyfarnu unrhyw wobr yn sgil gwallau, esgeulustod neu anghywirdeb o ran y manylion cyswllt neu’r manylion banc a roddwyd gennych neu fethiant ar eich rhan i’w diweddaru os ydynt yn newid;
  • Colledion neu ddifrod a achosir gennych yn sgil cymryd rhan yn y Loteri neu eich defnydd o unrhyw wobr;
  • Unrhyw ymyriadau neu wallau ar y Wefan;
  • Gwallau neu fethiannau o ran y caledwedd neu’r feddalwedd neu unrhyw achosion o golli cysylltiad â’r rhwydwaith, cysylltiadau diffygiol neu ddiffyg gwasanaeth; neu
  • unrhyw fethiant neu oedi y tu hwnt i reolaeth resymol y Trwyddedai.