Cyhoeddwyd: 27 Mawrth 2024

Gwnaeth cwpl o Ogledd Cymru wisgo eu hesgidiau rhedeg i gwblhau ras 10k Caer er budd Ambiwlans Awyr Cymru.

Llwyddodd Sophie a James Ash, y ddau yn 30 oed, i guro eu targed o £300 gan godi swm rhyfeddol o £618 ar gyfer yr Elusen Cymru gyfan.

Ras 10k Caer oedd ras pen ffordd 10k gyntaf y cwpl, ond mae'r ddau gymeriad 'cystadleuol iawn' eisoes wedi cymryd rhan mewn rasys rhwystrau traws gwlad gyda'i gilydd.

Ymunodd tri chi defaid achub sydd gan y pâr, o Lyn Brenig, â nhw wrth iddynt ymarfer ar gyfer y 10k; Dywedodd Sophie fod y cŵn bellach yn anhygoel o 'heini' oherwydd yr holl ymarfer.

Wrth fyfyrio ar y digwyddiad llwyddiannus, ychwanegodd Sophie: "Roedd rhedeg ar y ffordd yn sicr yn fwy heriol oherwydd yr holl redeg parhaus, ond roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn cefnogi yng Nghaer, a rhoddodd hwb go iawn i ni barhau i redeg. Gwnaethom gwblhau'r ras yn ein hamser gorau erioed (PB). Hoffem yn sicr redeg 10k arall, ac rydym yn ystyried rhedeg hanner marathon y flwyddyn nesaf yn barod."

Caiff yr elusen ei hariannu gan bobl Cymru, ac mae'n dibynnu'n gyfan gwbl ar roddion elusennol i godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi ymateb i fwy na 48,000 o alwadau ac rydym ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Un o resymau'r pâr dros ddewis codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru oedd oherwydd swydd Sophie fel Dirprwy Reolwr Safle Fferm Wynt Gwynt Y Môr oddi ar arfordir Gogledd Cymru. Dywedodd: "Rwy'n ymwybodol mai Ambiwlans Awyr Cymru fyddai un o'r unig sefydliadau a all ein helpu pan fyddwn yn gweithio, pe bai eu hangen arnom, ac rwyf hefyd yn deall y peryglon o weithio mewn lleoliad anghysbell o ddydd i ddydd.

"Yn bersonol, mae James a minnau'n mwynhau marchogaeth a beicio mynydd, a all fod yn beryglus iawn yn enwedig allan yn ardaloedd anghysbell cefn gwlad Cymru. Felly, rydym yn gwybod pa mor lwcus ydyn ni i gael ambiwlans awyr pe bai'r gwaethaf yn digwydd, felly roeddem eisiau rhoi yn ôl i elusen sy'n gweithio'n ddiflino yn ein hardal."

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen. 

Dywedodd Alwyn Jones, Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: "Diolch yn fawr iawn i James a Sophie am gymryd rhan yn ras 10k Caer ar gyfer ein hachos. Maent wedi codi swm anhygoel o arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'n wych clywed eu bod yn ystyried cymryd rhan mewn marathon ers iddynt gwblhau'r 10k.  Bydd ymgyrchoedd i godi arian fel yr un hon yn ein helpu i wasanaethu pobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf. Diolch hefyd i bawb sydd wedi rhoi arian i'r achos, rydych i gyd wedi chwarae rhan wrth ein helpu i barhau i wasanaethu pobl Cymru ac achub bywydau. Diolch yn fawr, bawb.

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i James a Sophie o hyd drwy roi arian drwy eu tudalen JustGiving yma