Cyhoeddwyd: 21 Mawrth 2024

Derbyniodd Ambiwlans Awyr Cymru rodd hael iawn o £200 gan Glwb Rotari Llangefni yn dilyn cyflwyniad.

Cafodd Alwyn Jones, Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru ei wahodd yn ddiweddar fel siaradwr gwadd i ginio Clwb Rotari Llangefni yng Ngwesty Nant yr Odyn, ger Llangefni.

Ar ddiwedd sgwrs Alwyn, cyflwynwyd rhodd iddo gan y clwb i'r elusen sy'n achub bywydau.

Caiff y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen. 

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Mae Clwb Rotari Llangefni yn falch o godi arian i amrywiaeth o wahanol achosion, gan gynnwys Marie Curie, Hosbis Dewi Sant ac yn ddiweddar maent wedi cyfrannu gwobrau ar gyfer noson wobrwyo crefftau ysgol leol. Byddant yn casglu rhoddion mewn archfarchnadoedd, ar y stryd ac mewn cyngherddau yn rheolaidd.

Dywedodd Trefor Edwards, Ysgrifennydd Clwb Rotari Llangefni: "Fel Clwb Rotari, rydym yn codi arian i bob math o elusennau a digwyddiadau, dyna yw ein pwrpas. Nid ydym erioed wedi rhoi i Ambiwlans Awyr Cymru, ond mae'n sicr yn achos haeddiannol."

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru.

Dywedodd Alwyn Jones, swyddog codi arian cymunedol yr elusen: "Roeddwn yn falch iawn o gael fy ngwahodd i siarad yn ystod cinio a chyfarfod y clwb. Roedd yn hyfryd cwrdd â'r aelodau a chael clywed am yr holl bethau da maent yn ei wneud ar gyfer gwahanol achosion. Diolch i Glwb Rotari Llangefni am roi £200 i'n helusen. Bydd yr arian yn ein helpu i sicrhau y gallwn barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd ein hangen fwyaf. Diolch yn fawr, bawb.”