Cyhoeddwyd: 14 Mawrth 2024

Mae bachgen naw oed wedi anrhydeddu ei frawd a fu farw drwy godi arian i nodi'r dyddiad pan fyddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 13 oed.

Gosododd Cai Jones a'i frawd 16 oed Tomi, heriau rhedeg unigol i'w hunain er cof am Ned.

Er gwaethaf ymdrechion gorau Ambiwlans Awyr Cymru a hedfannodd i'w helpu, bu farw Ned, 5 oed, yn drasig yn dilyn damwain car yn 2016, lle bu farw ei fam-gu hefyd.

Dechreuodd Cai ei her codi arian hwn drwy redeg 13 milltir mewn wythnos; dwy filltir y dydd am chwe diwrnod ac yna un filltir ar y diwrnod olaf, 2 Mawrth, sef pen-blwydd Ned. Cafodd Cai ei gefnogi gan ei frawd hŷn, Tomi drwy gydol yr her, a chan 23 o'i ffrindiau a ymunodd ag ef i gwblhau'r filltir olaf. Daeth staff o ysgol Cai - Ysgol Gymraeg Aberystwyth, hefyd i'w gefnogi.

Dangosodd ffrind i'r teulu, Enid Gruffudd, sef hyfforddwr y clwb rhedeg iau, ei chefnogaeth drwy wneud ychydig o ymarferion cynhesu gyda'r plant a chyd-redeg â nhw.

Gosododd y bechgyn o Gapel Bangor darged codi arian o £1,300 i'w hunain er cof am Ned. Fodd bynnag, gwnaethant ragori ar y swm hwnnw drwy godi swm anhygoel o £2,282 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Bydd Tomi yn ymgymryd â'i her rhedeg ei hun yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bydd yn rhedeg ei ras hŷn gyntaf – 10k Aberystwyth a fydd yn cael ei chynnal ym mis Rhagfyr.

Gan nad yw Tomi wedi rhedeg yn bellach na 5k o'r blaen, bydd 10k yn her iddo, ond bydd yn rhoi rhywbeth iddo hyfforddi ar ei gyfer.

Mae Tomi, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Penweddig, yn mynychu grŵp rhedeg wythnosol, dan hyfforddiant y rhedwr lleol Dic Evans, sydd wedi cynrychioli Cymru a Phrydain yn y gorffennol.

Dywedodd Sharon, eu mam falch: “Roedd yn anhygoel gweld cymaint yno i'w gefnogi, ac roedd yn golygu cymaint bod pawb yno yn meddwl am Ned ar ei ben-blwydd.

“Roedd yn emosiynol iawn clywed pawb yn gweiddi 'Pen-blwydd Hapus Ned!' ar ôl i'r rhedwyr ddychwelyd. Mae Cai wedi mwynhau ei her. Mae wedi bod mor hapus drwy'r wythnos. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth. Mae Tomi bellach yn edrych ymlaen at ddechrau hyfforddi ar gyfer ei her ei hun dros yr haf.”

Dyma'r tro cyntaf i'r bechgyn godi arian drostynt eu hunain. Fodd bynnag, mae eu tad Bleddyn, wedi cwblhau her rhwyfo 24 awr dan do yn y gorffennol er mwyn codi arian er cof am Ned. Dangosodd Cai a Tomi eu cefnogaeth i'w tad yn ystod ei her codi arian drwy ddefnyddio'r peiriannau rhwyfo wrth ei ochr. Cododd dros £11,500 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Ar ben-blwydd Ned, dathlodd y teulu drwy gael tecawê Tsieineaidd, gan mai dyna'r hyn y gofynnodd Ned amdano ar ei ben-blwydd yn 5 oed, ac mae'n rhywbeth y maent wedi ei wneud bob blwyddyn ers ei golli.

Ychwanegodd Sharon, wrth fyfyrio ar yr wythnos emosiynol: “Rhannais focs atgofion Ned â Cai y noson honno hefyd. Hwn oedd y tro cyntaf iddo ei weld. Roedd yn emosiynol iawn iddo gyffwrdd cudyn o wallt Ned a gosod ei law ar fowld plastr o law Ned.Mae wedi bod yn wythnos emosiynol, ond rwy'n hapus iawn ein bod wedi gallu nodi pen-blwydd Ned yn 13 oed mewn ffordd arbennig, a bydd yn atgof y byddwn yn ei drysori.”

Dywedodd Flora Stanbridge, Swyddog Codi Arian Cymunedol ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae clywed am Tomi a Cai yn codi arian er cof am eu brawd Ned wedi bod yn hyfryd.

“Mae'r gefnogaeth y mae teulu Jones wedi dangos i'r Elusen ers colli Ned wedi bod yn ysbrydoliaeth. Maent wedi troi amgylchiadau hynod drasig yn ganlyniad cadarnhaol drwy barhau i helpu eraill y mae angen ein help arnynt yng Nghymru. Diolch yn fawr i'w ffrindiau a'u teulu sydd wedi dangos cefnogaeth i'r bechgyn ac wedi nodi pen-blwydd Ned mewn ffordd hyfryd. Rydym yn edrych ymlaen at glywed am her redeg Tomi yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac rydym yn dymuno pob lwc iddo.

“Mae unigolion sy'n codi arian, fel Cai a Tomi, yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd – maent wedi codi swm anhygoel ar ein cyfer. Diolch yn fawr, bawb.”

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i'r bechgyn o hyd drwy roi arian i'w hymgyrch drwy eu tudalen JustGiving www.justgiving.com/crowdfunding/sharonmarie-jones