Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cael heb ariannol eithriadol gan fenter Grant Canmlwyddiant Bagiau Cymorth Tesco.

 

I ddathlu canmlwyddiant Tesco, ymunodd yr archfarchnad â Groundwork i gynnal pleidlais arbennig fel rhan o'i chynllun cyllid cymunedol a dyfarnu grantiau o £25,000, £15,000 a £10,000 i brosiectau cymunedol.

 

Yn rhanbarth Gogledd Cymru, dewiswyd tair elusen deilwng ar gyfer y rhestr fer i gael y wobr ariannol. Gwahoddwyd siopwyr i alw heibio'u siopau lleol a phleidleisio dros bwy ddylai gael y brif grant.

 

Ambiwlans Awyr Cymru oedd y dewis mwyaf poblogaidd ac o ganlyniad, cafodd swm anhygoel o £25,000.

 

Cafodd ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi 2001, ac Ambiwlans Awyr Cymru yw gwasanaeth ambiwlans awyr swyddogol Cymru sy'n darparu gwasanaeth awyr i ymateb i achosion o salwch ac anaf ledled y wlad. Mae Ambiwlans Awyr Cymru ar ddyletswydd 365 diwrnod y flwyddyn a gall fynd i unrhyw le yn y wlad o fewn ugain munud. Bob blwyddyn, mae'r pedwar hofrennydd yn ymateb i 2,500 o alwadau ar gyfartaledd ac ers 2001 mae'r elusen ambiwlans awyr wedi ymateb i fwy na 30,000 o argyfyngau.

 

Caiff yr Elusen, y mae un o'i phedair canolfan yng Nghaernarfon, ei hariannu'n gyfan gwbl gan bobl Cymru, ac nid yw'n cael unrhyw arian loteri nac arian uniongyrchol gan y llywodraeth. Bob blwyddyn, mae angen i'r Elusen godi £6.5 miliwn i gynnal y gwasanaeth achub bywydau.

 

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer Gogledd Cymru: "Rydym wrth ein bodd yn derbyn y swm hael iawn hwn. Drwy gydol diwedd yr haf a'r hydref, gwnaethom ofyn yn garedig i bobl Gogledd Cymru bleidleisio drosom wrth iddynt fynd i siopa bwyd yn eu Tesco lleol. Mae'r gefnogaeth barhaus gan bobl ledled Gogledd Cymru wedi ein helpu i gael y swm arbennig hwn o arian. Diolch o galon i bawb a wnaeth bleidleisio drosom ac i Tesco am eu cefnogaeth anhygoel.

 

"Yn 2018 yn unig, gwnaeth Ambiwlans Awyr Cymru ymateb i dros 1,100 o alwadau ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, gan gyfrif am bron i 50% o gyfanswm y galwadau y gwnaethom ymateb iddynt yn ystod y flwyddyn honno. Mae cael cefnogaeth siopwyr ledled Gogledd Cymru wedi sicrhau y gallwn fod yno i bobl pan fo angen ein cymorth arnynt fwyaf."

 

Mae prosiect Bagiau Cymorth Tesco eisoes wedi rhoi dros £75 miliwn i dros 25,000 o brosiectau ledled Prydain.

 

Gwnaeth Geraint Hughes, Hwylusydd Tesco ar gyfer Groundwork Gogledd Cymru, deithio i siopau Tesco ledled y rhanbarth i roi'r grantiau i'r holl elusennau ac i Gaernarfon i gyflwyno'r siec i Ambiwlans Awyr Cymru yng nghanolfan y grŵp.

 

Dywedodd Geraint: "Mae hi wedi bod yn brofiad rhyfeddol gweld tair elusen wych ledled Gogledd Cymru yn cael arian i gefnogi'r gwaith ardderchog maent yn ei wneud i wella iechyd a lles pobl ledled Gogledd Cymru."

 

Ychwanegodd Keith Jackson, Rheolwr Bagiau Cymorth Tesco: "Llongyfarchiadau i bawb a dderbyniodd ein Grant Canmlwyddiant yn y bleidlais gyntaf. Mae pob un ohonynt yn haeddu'r grant ac rydym yn gobeithio y bydd y dyfarniadau hyn yn eu helpu i barhau â'u gwaith pwysig yn ein cymunedau.

  

"Yn 2019, rydym yn dathlu canrif o ddarparu gwerth ardderchog i'n cwsmeriaid. A pha well ffordd o ddathlu'r digwyddiad hwn na thrwy ddefnyddio ein cynllun grant cymunedol blaenllaw, Bagiau Cymorth, i gefnogi hyd yn oed yn fwy o grwpiau a sefydliadau sy'n helpu i wneud gwahaniaeth ledled Prydain."