Mae cynorthwyydd meithrin  20 oed o Bowys yn neidio er cof am ei chefnder Casey Breese, ei chyfnither Kelly Breese, a'u tad Nick.

Mae Ffion Jones, o Gaersŵs, eisoes wedi cyrraedd ei tharged o godi £3,000, ond mae bellach yn gobeithio codi £5,000 i ddwy elusen sy'n bwysig iawn iddi – Ambiwlans Awyr Cymru ac Ysbyty Plant Alder Hey, yn Lerpwl.

Yn 2011, bu farw Casey Breese yn 12 oed pan syrthiodd postyn gôl ar ei ben pan oedd yn chwarae gyda'i ffrindiau.

Ddwy flynedd ar ôl marwolaeth Casey, bu farw Kelly, ei chwaer fawr, yn drasig yn 18 oed pan aeth y car roedd yn ei gyrru i mewn i goeden. Y llynedd, bu'r teulu'n galaru eto yn dilyn marwolaeth sydyn Nick, tad Casey a Kelly.

Ers iddi fod yn blentyn bach, roedd Ffion wedi bod eisiau nenblymio ond roedd am gael rheswm dros wneud hynny, a dywedodd: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen sydd bob amser wedi bod yn bwysig i fi a'm teulu. Roedd fy nghefnder mewn damwain drasig lle syrthiodd postyn gôl ar ei ben a'i wasgu. Galwyd Ambiwlans Awyr Cymru a gwnaethant ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Brenhinol Amwythig ond, yn anffodus, bu farw yn fuan ar ôl iddo gyrraedd. Roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig rhoi rhywbeth yn ôl, ac felly rwyf am godi cymaint o arian â phosibl i Ambiwlans Awyr Cymru.” 

“Roedd hyn yn newyddion ofnadwy i ni gyd fel teulu, ac i'w ffrindiau. Bydd colled fawr ar eu hôl ond byddwn yn cofio amdanynt am byth”,  ychwanegodd Ffion.

Mae Ffion hefyd yn codi arian i Ysbyty Plant Alder Hey ar ôl i'r ysbyty achub bywyd ei ffrind agos, Willow.

Ychwanegodd Ffion:  “Byddaf yn nenblymio er cof am fy nghefnder a'm cyfnither, fy wncwl, a'm ffrind agos, Willow. Byddaf yn nenblymio i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, gan ei bod yn elusen bwysig iawn i mi. Byddaf hefyd yn codi arian ar gyfer Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl am achub bywyd Willow.”

O ganlyniad i bandemig y Coronafeirws, mae Ffion (a oedd i fod i nenblymio y llynedd) wedi aildrefnu'r nenblymiad ym Maes Awyr Abertawe ar gyfer dydd Sul, 8 Awst.

Yn ogystal â rhoddion gan ffrindiau a theulu, mae Ffion wedi cynnal nosweithiau cwis, ynghyd â phacio bagiau i godi arian.

Wrth feddwl am neidio allan o awyren, dywedodd: “Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at nenblymio, a dw i ddim yn teimlo'n nerfus ar hyn o bryd. Mae fy nheulu a'm ffrindiau yn meddwl fy mod i'n hollol wallgof. Dywedodd un aelod o'r teulu na fyddai ‘byth bythoedd’ yn nenblymio.”

Dywedodd Dougie Bancroft, Cydgysylltydd Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae Ffion eisoes wedi codi swm anhygoel o £3,000 er budd dau achos pwysig iawn. Er yr holl dristwch a wynebwyd gan y teulu, mae Ffion wedi penderfynu neidio allan o awyren er cof am ei chefnder, ei chyfnither a'i wncwl i godi arian ar gyfer elusen. Am deyrnged hyfryd er cof am ei hanwyliaid. Diolch yn fawr Ffion a phob lwc wrth nenblymio.”

Gallwch gyfrannu at ddigwyddiad codi arian Ffion drwy ei thudalen Just Giving.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.