Mae un o wirfoddolwyr dewr Ambiwlans Awyr Cymru yn gobeithio codi £1,500 i'r Elusen drwy Hedfan ar ei Thraed yn 74 oed!

Bydd Janice Jackson, o'r Trallwng, yn mentro i'r awyr ym mis Awst er budd yr elusen sy'n achub bywydau.

Mae Janice, sy'n nain, bob amser wedi bod eisiau hedfan ar ei thraed, gan ychwanegu: “Rwy'n hedfan ar fy nhraed i godi arian i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd rwy'n gweld y gwaith anhygoel y mae'n ei wneud i achub bywydau. Rwyf bob amser wedi bod eisiau ei wneud, ond rwyf wedi aros nes fy mod yn fy saithdegau i wneud hynny!

“Rwyf wedi gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru am dros 5 mlynedd ac rwy'n frwdfrydig am gefnogi'r gwaith y mae'n ei wneud. Rwy'n cynnal digwyddiadau lleol i godi arian i'r elusen ac rwyf wedi codi dros £6,000 yn y gorffennol. Roeddwn i am wneud rhywbeth gwahanol a dewr. Rwy'n llawn cyffro i wneud yr her hon o hedfan ar fy nhraed i godi ymwybyddiaeth o'r elusen anhygoel hon, a chodi arian iddi hefyd.”

Roedd disgwyl i Janice hedfan ar ei thraed y llynedd ond cafodd ei ohirio oherwydd pandemig y coronafeirws. Bydd yn cwblhau'r her ddydd Mawrth 23 Awst yn Aero Super Batics yn Cirencester, Swydd Gaerloyw.

Ychwanegodd Janice: “Roeddwn i mor siomedig y cafodd ei ganslo y llynedd. Dwi ddim yn nerfus am hedfan ar fy nhraed ond rwy'n poeni y bydd yn cael ei ganslo eto. Mae fy nheulu i gyd yn meddwl fy mod i'n wallgof, ond rwyf bob amser wedi bod eisiau gwneud hyn. Rwy'n mynd ar y reidiau mawr i gyd gyda fy wyrion; maen nhw i gyd yn sgrechian tra fy mod i'n mwynhau.”

Dywedodd Dougie Bancroft, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-ddwyrain,: “Mae Janice yn cymryd rhan mewn her anhygoel, y byddai llawer o bobl yn ei osgoi ar unrhyw oedran – heb sôn am yn 74 oed! Mae'n ddiofn ac mae ei phenderfyniad a'i hymrwymiad fel gwirfoddolwr yn amlwg unwaith eto. Gobeithio y byddwch i gyd yn dangos eich cefnogaeth i Janice yn ei her ddewr, a fydd yn helpu i achub mwy o fywydau ledled Cymru.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Janice drwy roi arian drwy ei thudalen Just Giving – Janice's Wing Walk.

Caiff Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ei hariannu gan bobl Cymru ac mae angen £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr 24/8, yn gwasanaethu Cymru ac yn achub bywydau.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 i roi £5 .