Beth rydym yn ei wneud Newyddion Newyddion Chris yn Cwblhau Taith Baragleidio dros yr Alpau er mwyn Codi Arian i 14/08/2020 Mae dyn o Swydd Henffordd wedi cwblhau taith baragleidio heb gymorth dros yr Alpau yn Ffrainc er budd elusen hofrenyddion sy'n achub bywydau Cymru. Fis diwethaf, prynodd y paragleidiwr profiadol, Chris Ashdown, sy'n 51 oed o Rosan ar Wy, docyn unffordd i Ffrainc ac aeth i'r awyr i gychwyn ar ei antur enfawr, a oedd wedi cael ei chanslo'n flaenorol oherwydd COVID-19. Mae Chris wedi codi £1,320 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl gweld a chlywed am feddygon yn achub peilotiaid paragleidio wedi'u hanafu. Dywedodd Chris, sy'n aelod o Glwb Paragleidio De Ddwyrain Cymru ac yn hedfan yn rheolaidd dros y Mynydd Du a Bannau Brycheiniog: "Rwyf wedi bod yno ar sawl achlysur pan mae meddygon yr Elusen wedi dod i helpu cyd-beilotiaid mewn trafferthion.Maen nhw wedi dod i fy helpu i hefyd, ond roeddwn i'n iawn, diolch byth. "Felly, roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n ceisio codi ychydig o arian i'r gwasanaeth." Ei nod oedd hedfan o Saint-André-les-Alpes yn y de i Chamonix yn y gogledd, ac yna ymlaen i’r Swistir ar 'antur volbiv', sef term Ffrangeg ar gyfer gwersyll hedfan. Roedd nifer o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau i daith Chris, gan gynnwys hedfan mewn amodau anodd; cymylau stormus; sawl ymgais aflwyddiannus i hedfan; colli ei basbort, ei gerdyn credyd ac arian parod, a chwrdd â 'menyw hyfryd o'r Swistir' a dalodd am ei docyn yn ôl i Ffrainc Yn ffodus, daeth Chris o hyd i'w basbort, ei gardiau credyd a'i arian ar ôl dychwelyd i Ffrainc, ac mae wedi ad-dalu'r fenyw. Ar ddiwrnod pedwar ei 'antur volbiv', wynebodd Chris daith arswydus i lawr. Cafodd ei ollwng gan ei gefnder yn Plaine Joux er mwyn dechrau’r daith yn Nyffryn Chamonix – roedd disgwyl i'r rhan hon fod yn un o rannau anoddaf y daith. Ar ôl hedfan i lawr Dyffryn Chamonix, heibio i rewlif enwog Mar de Glacé oddi ar Mount Blanc, a ddisgrifiodd fel golygfa 'syfrdanol', cyrhaeddodd ddyffryn isel yn y Swistir gyda cheunant dwfn a cheblau pŵer foltedd uchel islaw Argae enwog Emosson. Wrth feddwl am yr hyn a ddigwyddodd nesaf, dywedodd Chris: "Roeddwn i'n gwybod fy mod mewn trafferth, ac roedd gen i un cyfle i lanio ar frys mewn agoriad bach yn y coed. Ar y pwynt hwn, roeddwn i wedi penderfynu'n barod y byddwn i'n setlo am goesau wedi'u torri yn hytrach na'r opsiwn arall, ac ar ôl taith fer 2 awr a 32km, yn rhyfeddol ddigon, glaniais mewn un darn – ar wahân i fy aden a laniodd mewn llwyn enfawr, a rhwyg mawr yn fy harnais hedfan y llwyddais i'w wnïo'n sownd y noson honno. "Roedd y daith yn anhygoel, hyd yn oed yn well na'r disgwyl. Roedd y daith hon yn antur llawn adrenalin a fydd yn aros yn y cof am byth! "Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi rhoi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, a diolch yn fawr iawn i fy ngwraig hyfryd Sally am fy ngoddef – alla i ond ddychmygu sut beth yw byw gyda rhywun fel fi!". I ddarllen mwy am antur Chris, ewch i'w dudalen Facebook – Paraglide adventure across the French Alps. Mae gennych amser o hyd i ddangos eich gwerthfawrogiad i Chris drwy ei noddi yma. Manage Cookie Preferences