Mae tudalen deyrnged yn ffordd arbennig i deulu a ffrindiau gyfrannu at ein gwaith o achub bywydau er cof am anwylyd, ac mae'n ffordd wych o rannu atgofion, lluniau a straeon ag eraill.

Mae tudalen deyrnged ar-lein yn ffordd berffaith o gofio a dathlu bywyd eich anwylyd nad yw gyda chi mwyach, ond sydd bob amser yn eich meddyliau.


Creu Cronfa Deyrnged

Mae creu tudalen deyrnged gyda MuchLoved yn syml.

Gallwch bersonoli eich tudalen deyrnged, gan rannu lluniau a straeon a goleuo cannwyll er cof am eich anwylyd.

Mae creu eich tudalen deyrnged yn syml. Nodwch eich manylion a dewiswch 'Ambiwlans Awyr Cymru' fel eich elusen ddewisol. Gallwch rannu'r ddolen â theulu a ffrindiau.


Creu Tudalen Codi Arian ar Facebook

Pan fydd y gwaethaf yn digwydd, gall fod yn anodd dod i delerau â marwolaeth anwylyd. Gall cofio amdano drwy godi arian roi cysur i chi.

Codwch arian yn ei enw ar Facebook. Gallwch bersonoli eich tudalen codi arian gyda lluniau a'i rhannu â theulu a ffrindiau.

Cliciwch yma i greu eich tudalen codi arian ar Facebook.

Chwiliwch am 'Ymddiriedolaeth Elusen Ambiwlans Awyr Cymru' wrth ein dewis ni fel yr elusen.


Rhowch rodd er cof am anwylyd gan ddefnyddio'r botwm 'cyfrannu' isod.

RHOI RHODD ER COF