Nid yw colli anwyliaid byth yn hawdd, ond mae eu coffáu drwy gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru yn ffordd gadarnhaol ac ystyrlon o'u cofio.Dewiswch ddathlu bywyd eich anwylyd drwy ychwanegu ei enw at ein Castell Forget-Me-Not unigryw sydd wedi'i ddylunio'n hyfryd.
Mae'n bleser gennym gynnal Llwybr Wild in Art cyntaf Abertawe, lle caiff y strydoedd eu haddurno â thros 30 o gerfluniau mawr o gestyll, pob un ohonynt wedi'u noddi gan fusnesau heblaw am gastell ein Helusen ein hun – y Castell Forget-Me-Not.
Mae'r castell Forget-Me-Not wedi cael ei ddylunio gan Diana R Brook, artist o Sir Benfro, a fydd yn paentio enw eich anwylyd â llaw ar ein castell.
Yn draddodiadol, mae'r blodyn bach eiddil yn gysylltiedig â'r weithred o gofio yn ogystal â chariad a chyfeillgarwch, a dyna pam ein bod yn teimlo mai hwn oedd y blodyn perffaith i gofio am eich anwylyd.
Bydd ein castell yn cael ei arddangos yng Nghanol Dinas Abertawe drwy gydol y llwybr, cyn cael ei symud a'i arddangos y tu allan i safle Ambiwlans Awyr Cymru yn Nafen, Llanelli.
Y deyrnged berffaith
Mae'n costio £50 i ychwanegu enw eich anwylyd a byddwch yn cael y canlynol:
Drwy ychwanegu enw eich anwylyd, byddwch yn ychwanegu pennod newydd i'w stori a bydd eu hatgof yn fyw yn ein gwaith.
Fel rhan o'r ymgyrch Flowers of Remembrance, bydd Castell Forget-Me-Not yn cael ei ddylunio a'i greu gan Diana R Brook, artist o Arberth. Read more
Drwy ychwanegu enw eich anwylyd, byddwch yn ychwanegu pennod newydd i'w stori a bydd eu hatgof yn fyw yn ein gwaith. Read more