Flowers of Remembrance Dathlwch fywyd eich anwylyd. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn falch o fod yn cynnal llwybr cyntaf Wild in Art, Castles in the Sky, yn Abertawe. Bydd y llwybr celf gyhoeddus yn cael ei gynnal yn ystod Haf 2023 a bydd dros 30 o gestyll mawr yn cael eu gosod o amgylch y ddinas. Talwch deyrnged i'ch anwyliaid drwy ychwanegu eu henw at gastell Forget-Me-Not yr elusen. Bydd pob enw yn cael ei arddangos ar betalau blodyn na'd fi'n angof wedi ei wneud â llaw ar y Castell Flowers of Remembrance hwn. Bydd y castell yn cael ei arddangos yng Nghanol Dinas Abertawe ar hyd y llwybr, cyn cael ei symud a'i arddangos y tu allan i ganolfan Ambiwlans Awyr Cymru yn Nafen, Llanelli. Y deyrnged berffaith Mae pob enw yn costio £50 a byddwch yn cael: • Enw eich anwylyd wedi'i baentio ar ein Castell Forget-Me-Not • Cerdyn diolch • Hadau blodyn na'd fi'n angof i chi allu talu eich teyrnged eich hun gartref • Enw eich anwylyd ar blac ar waelod y castell • Enw eich anwylyd ar dudalen we Forget-Me-Not yn walesairambulance.com Drwy ychwanegu enw eich anwylyd, byddwch yn ychwanegu pennod newydd at ei stori, a bydd ei atgof yn fyw yn ein gwaith. Add your loved one's name Manage Cookie Preferences