Fel rhan o'r ymgyrch Flowers of Remembrance, bydd Castell Forget-Me-Not yn cael ei ddylunio a'i greu gan Diana R Brook, artist o Arberth, a fydd yn paentio enw pob anwylyd yn unigol â llaw ar betalau blodyn na'd fi'n angof.

Dywedodd Diana R Brook ei bod yn bleser cael cyfrannu at ddigwyddiad Castles in the Sky a'i bod yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr ymgyrch Flowers of Remembrance.

Dywedodd: “Ar ôl gweld pa mor hyfryd oedd y llwybrau Wild in Art eraill ledled y wlad mae'n gyffrous cael cymryd rhan yn y prosiect a dod â chelf i'r ddinas.

“Byddaf yn paentio pob blodyn â llaw ar y castell ac yna'n ychwanegu pob enw unigol. Mae'r blodyn n'ad fi'n angof mor dlws a chain.

“Rwy'n siŵr y bydd yn edrych yn hyfryd ac y bydd ymdeimlad ceramig iddo bron. Mae'n ffordd arbennig o gofio am anwylyd ac yn ogystal â chodi arian, bydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth ac yn cyfrannu at ddigwyddiad hanesyddol.”

Dywedodd Siany Martin, Swyddog Codi Arian Corfforaethol yn Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'n bleser gennym weithio gyda'r artist amryddawn Diana R Brook, a fydd yn paentio pob enw unigol ar betalau blodau n'ad fi'n angof â llaw ac yn trawsnewid y castell yn ddarn hyfryd o gelf flodeuol.”


Bywgraffiad Diana

Rwyf wedi bod ar flaen y gad fel gweithiwr creadigol proffesiynol ers 1993, gan gyflwyno celf yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal â chreu gwaith fy hun. Rwy'n Uwch-gymedrolwr Cynorthwyol ar gyfer celf a dylunio Safon Uwch gyda Bwrdd Arholi Cymru, CBAC, ac wedi bod yn gweithio gyda'r Bwrdd ers 1999.

Rwyf wrth fy modd gyda llyfr braslunio a byddwn i'n bendant yn mynd yn ôl i achub fy llyfrau pe bai'r tŷ ar dân....neu'n anfon rhywun arall i'w nôl i mi! Dyma'r dyddiaduron gweledol gorau erioed.

Ers mis Medi 2018 rwyf wedi bod yn addysgu'n rhan-amser sydd wedi fy ngalluogi i wneud mwy o'm rôl fel artist a gwneuthurwr. Rwy'n hoffi rhinweddau leino ac wedi cynhyrchu llawer o brintiau, gyda llawer o fy nyluniadau yn cael eu rhoi ar gardiau, mygiau enamel, mygiau tsieni esgyrn, crysau-t a bagiau cario. Mae wedi bod yn daith ddysgu sylweddol, ond rwy'n dechrau dod i ddeall pethau erbyn hyn, ac rwy'n falch o weld fy nwyddau mewn siopau annibynnol ledled Cymru.

Rwy'n cynnal gweithdai argraffu hefyd. Weithiau byddaf yn cynnal y rhain yn fy nghartref, gyda lle i 4 yn unig, sy'n golygu bod y bobl yn cael profiad agos atynt. Rwy'n cynnal sesiynau yn fy nghegin ac felly mae'r gweithdy yn teimlo'n hamddenol. Rwyf wedi gwneud ffrindiau hyfryd drwy hyn hefyd, felly mae llawer ohonynt yn dychwelyd o hyd. Mae'n wych. Mi fydda i'n teithio gyda fy offer argraffu ac yn cynnal gweithdai mewn lleoliadau a gwyliau hyfryd yn aml gyda phobl arbennig. Dros yr haf rwyf wedi cynnal gweithdai i ddwsinau o bobl greadigol, frwdfrydig yn The Big Retreat Festival, Fforest Gathering, Gŵyl Gwên Gwen, Fferm Dewslake a gweithdai Beth Morris yn Llandaf. 

Bydd pobl yn gofyn i mi wneud comisiynau yn aml ac rwyf wrth fy modd gyda Marchnad Gwneuthurwyr dda!

Rwy'n gweithio mewn ysgolion fel Artist Preswyl gwadd, gan feithrin cysylltiadau rhwng ysgolion a sefydliadau eraill. Maer llawer o'r cyfnodau preswyl mewn ysgolion yn cynnwys gweithio gyda disgyblion mwy heriol neu ddisgyblion mwy abl a thalentog. Grwpiau gwahanol iawn o ddysgwyr.

Yn ystod y cyfnod clo, penderfynais fod yn ‘Dylwythen Deg Enfysau’ yn fy nghymuned, gan fynd o gwmpas yn paentio enfysau ar y ffenestri yn fy nhref. Llwyddodd hyn i dynnu sylw llawer o oedolion unig a phlant cyffrous yn Arberth, a oedd yn bwysig iawn yn ystod y cyfnod anodd.

dianarbrook.com