Skip over main navigation
  • Log in
  • Basket: (0 items)
Wales Air Ambulance - Welsh
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn
English Manylion Cyswllt Cyfrannwch
Menu
  • Pwy ydym ni
    • Gwasanaeth Dadansoddi
    • Amdanom Ni
      • Pwy ydym ni
      • Hanes a ffeithiau
      • Eglurhad Dryswch Elusennau
    • Ein Tîm
      • Tîm Codi Arian
        • De Cymru
        • Gogledd Cymru
      • Ymddiriedolwyr
      • Noddwyr a Llysgenhadon
    • Ein Canolfannau Awyr
    • Swyddi Gwag
  • Beth rydym yn ei wneud
    • Cymorth Cleifion
    • 24/7
    • Achub Bywydau. Dros Gymru - 2021
    • Cyrchoedd
    • Straeon Cleifion
    • Meddygon a Cit
    • Newyddion
      • Y newyddion diweddaraf
      • Cylchlythyr
      • Cwrdd a'r Tîm Cystylliadau Cyhoeddus
      • Newyddion
      • Polisi Preifatrwydd
  • Hedfan i'r Dyfodol
  • Sut i Roi
    • Rhoi Nawr
    • Apeliadau
    • 24/7 codi arian
    • Gadael rhodd yn eich Ewyllys
    • Siop
      • Ein Siopau
      • Siopa gyda ni drwy ebay
    • Anrhegion mewn Ewyllsiau
      • Pam adael Anrheg
      • Gwasanaeth Ysgrifennu Ewyllys Am Ddim
      • Ewyllys - Cwestiynau Cyffredin
    • Rhoi
      • Ffyrdd Eraill i'w Rhoi
      • Rhodd Cymorth
      • Rhoi Drwy’r Gyflogres
  • Cymryd Rhan
    • Codi Arian
      • Sut i Godi Arian
      • Syniadau Codi Arian
      • Adnoddau Codi Arian
      • Creu Tudalen Codi Arian
    • Digwyddiadau Codi Arian
      • Digwyddiadau Cymunedol
      • Digwyddiadau Her
    • Cinio Mawreddog 2022
    • Gwirfoddoli
  • Loteri
    • Ein Loteri
    • Adnabod Canfaswyr y Loteri
    • Canlyniadau
    • Cwestiynau Cyfferdin am ein Loteri
    • Telerau ac Amodau
    • Polisi Hapchwarae
  • Admin
    • Log in
  • Basket: (0 items)
  • polisi-hapchwarae
  1. Loteri
  2. Polisi Hapchwarae

Polisi Hapchwarae

Cyflwyniad

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnal Loteri Gymdeithasol ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru, gyda’r unig nod o godi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod y loteri’n cael ei chynnal mewn ffordd ddiogel, deg a chymdeithasol gyfrifol, ac i gefnogi gamblo diogel ymhlith yr aelodau. Mae’r Comisiwn Hapchwarae yn rheoleiddio gamblo er budd y cyhoedd. Mae’r fframwaith reoleiddio a gyflwynwyd gan Ddeddf Gamblo 2005 yn seiliedig ar dri amcan trwyddedu:

  1. Atal gamblo rhag bod yn ffynhonnell trais ac anhrefn, cael ei gysylltu â throsedd ac anhrefn neu gael ei ddefnyddio i gefnogi trais.
  2. Sicrhau bod gamblo’n digwydd mewn modd teg ac agored.
  3. Amddiffyn plant a phobl eraill sy’n agored i niwed rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio yn sgil gamblo.

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r polisïau a’r strategaethau sydd ar waith gan Ambiwlans Awyr Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal unrhyw weithgareddau gamblo mewn modd cymdeithasol gyfrifol. Mae staff y loteri yn gyfarwydd â’r ddogfen hon ac yn ei darllen pan fyddant yn cael eu penodi, a phob chwe mis wedi hynny.

Wales


Atal gamblo rhag bod yn ffynhonnell trais ac anhrefn:

Expand

Pan fydd unigolyn yn ymuno â’r loteri, byddwn yn gwirio:

  • Pan fydd unigolyn yn ymuno â’r loteri, byddwn yn gwneud y canlynol:
  • Cadarnhau bod yr unigolyn yn 16 neu’n hŷn.
  • Cadarnhau bod yr unigolyn yn byw ym Mhrydain Fawr.
  • Sicrhau ein bod yn cyfyngu nifer y cynigion i 10 cais gwerth £1 yr wythnos.
  • Os byddwch yn cael cynigion pellach, ceidw Ambiwlans Awyr Cymru yr hawl i wneud gwiriadau pellach gyda'r unigolyn. Gall Ambiwlans Awyr Cymru ganiatáu cynigion pellach yn ôl ei ddisgresiwn ei hun.
  • Rydym hefyd yn cadw’r hawl i ganslo unrhyw aelodaeth os byddwn yn amau unrhyw weithgarwch troseddol.
  • Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw weithgarwch troseddol gwirioneddol neu a amheuir yn unol â Deddf Enillion Troseddau 2002.

Published: 18th July, 2018

Updated: 11th July, 2019

Author:

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Sicrhau bod gamblo yn digwydd mewn modd teg ac agored:

Expand

Byddwn yn sicrhau:

  • Bod chwaraewyr yn gallu cael gafael ar wybodaeth glir am faterion megis rheolau’r loteri, y gwobrau sydd ar gael a’r siawns o ennill.
  • Bod y rheolau yn deg.
  • Bod unrhyw ddeunydd hysbysebu neu hyrwyddo yn glir ac nad yw’n gamarweiniol.
  • Bod y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi.

Published: 18th July, 2018

Updated: 11th July, 2019

Author:

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Amddiffyn plant a phobl eraill sy’n agored i niwed rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio yn sgil gamblo:

Expand

Byddwn yn gwneud ein gorau glas i fynd i’r afael â’r materion canlynol:

  • Gamblo o dan oed. Mae’n anghyfreithlon i unrhyw unigolyn dan 16 oed gymryd rhan mewn loteri. Rydym yn cadw’r hawl i ofyn am brawf oedran gan unrhyw gwsmer a gellir atal cyfrif cwsmer hyd nes y ceir tystiolaeth foddhaol. Os na all unigolyn, am unrhyw reswm, brofi ei fod dros 16 oed ar ôl ennill, caiff unrhyw enillion eu fforffedu.
  • Terfynau Gamblo. Bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn gosod cyfyngiad o 10 tocyn fesul raffl, ac ni ellir prynu mwy na 2 ohonynt ar-lein.
  • Hunaneithrio. Gallwn gau aelodaeth loteri unrhyw chwaraewr ar gais, a hynny am isafswm cyfnod o chwe mis ac ni fydd modd ail-agor y cyfrif yn ystod y cyfnod hwn. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn hefyd yn ceisio sicrhau nad yw’r unigolyn yn ceisio agor cyfrif newydd.
  • Mynediad i Hanes Chwaraewr. Byddwn yn darparu hanes llawn ei aelodaeth loteri i unrhyw chwaraewr ar gais, gan gynnwys hanes llawn ei daliadau a’i enillion.
  • Darparu Gwybodaeth am Sefydliadau Cymorth Gamblo. Byddwn yn darparu manylion cyswllt neu ddolenni ar unrhyw wefannau loteri neu gyfryngau priodol eraill i GamCare a sefydliadau perthnasol / priodol eraill. Rydym hefyd yn darparu cymorth ariannol drwy’r Lotteries Council i GREaT (Gambling Research, Education and Treatment), sy’n codi arian er mwyn cefnogi ymchwil, addysg a thrin problemau gamblo.
  • Gwybodaeth am Hunangymorth ac Ymwybyddiaeth. Byddwn yn darparu gwybodaeth am hunangymorth ac ymwybyddiaeth ar unrhyw wefannau loteri neu gyfryngau priodol eraill ynghyd â manylion cyswllt neu ddolenni i GamCare a sefydliadau perthnasol / priodol eraill.
  • Hyfforddi Staff. Mae’r holl staff perthnasol yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth ar faterion yn ymwneud â phroblemau gamblo.

Published: 18th July, 2018

Updated: 11th July, 2019

Author:

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Gamblo Cyfrifol:

Expand

Er bod y mwyafrif o bobl yn gamblo yn unol â’u modd, gall gamblo fod yn broblem i rai. Efallai y bydd y pwyntiau canlynol yn eich helpu i gadw rheolaeth:

· Dylid ystyried gamblo fel adloniant ac nid fel ffordd o wneud arian

· Dylid osgoi ceisio adennill colledion

· Ni ddylech ond gamblo yr hyn y gallwch fforddio ei golli

· Dylech gadw llygad ar yr amser rydych yn ei dreulio’n gamblo a’r arian rydych yn ei wario

· Os ydych am roi’r gorau i gamblo am gyfnod, gallwch ddefnyddio ein hopsiwn hunaneithrio drwy e-bostio [email protected], gan nodi eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhifau aelodaeth. Byddwn wedyn yn cau eich aelodaeth am isafswm cyfnod o 6 mis ac ni fydd modd i chi ailagor y cyfrif yn ystod y cyfnod hwn am unrhyw reswm.

· Os oes angen i chi siarad â rhywun am broblem gamblo, yna cysylltwch â GamCare. Elusen gofrestredig yw GamCare sy’n cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol dros y ffôn i unrhyw un y mae problem gamblo yn effeithio arno. Gellir cysylltu â GamCare ar 0845 6000 133 (am ddim o linellau tir yn y DU a’r rhan fwyaf o ffonau symudol).

Published: 18th July, 2018

Updated: 11th July, 2019

Author:

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Problemau Gamblo

Expand

Os ydych yn poeni eich bod chi (neu rywun arall) yn gaeth i gamblo, efallai y bydd y cwestiynau hyn yn eich helpu i ganfod yr ateb:

  • A ydych yn aros i ffwrdd o’r gwaith, y coleg neu’r ysgol er mwyn gamblo?
  • A ydych yn gamblo er mwyn dianc rhag bywyd diflas neu anhapus?
  • Wrth gamblo ac ar ôl gwario pob un geiniog, a ydych yn teimlo ar goll ac yn ddigalon, ac yn teimlo ysfa i gamblo eto cyn gynted â phosibl?
  • A ydych yn gamblo nes eich bod wedi gwario’r geiniog olaf, hyd yn oed cost y bws adref neu baned o de?
  • A ydych erioed wedi ceisio cuddio faint o amser rydych wedi ei wario yn gamblo neu faint o arian rydych wedi’i wario?
  • A yw eraill byth wedi beirniadu eich gamblo?
  • A ydych wedi colli diddordeb yn eich teulu, eich ffrindiau neu’ch hobïau?
  • Ar ôl colli, a ydych yn teimlo bod yn rhaid i chi geisio adennill eich colledion cyn gynted â phosibl?
  • A yw dadleuon, rhwystredigaethau neu siomedigaethau yn cynyddu eich awydd i gamblo?
  • A ydych yn teimlo’n isel neu hyd yn oed yn ystyried cyflawni hunanladdiad yn sgil eich gamblo?

Po fwyaf yr atebion ‘ydw/ydynt’ i’r cwestiynau hyn, y mwyaf tebygol ydyw bod gennych broblem gamblo ddifrifol. Er mwyn siarad â rhywun am hyn, cysylltwch â llinell ffôn gyfrinachol GamCare ar 0845 6000 133 neu ewch i’w gwefan

www.gamcare.org.uk am ragor o wybodaeth.

Published: 18th July, 2018

Updated: 11th July, 2019

Author:

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter
Back to top

Showing 10 of 5

Latest

  • Cynllun Gwobrwyo Elusen Ambiwlans Awyr Cymru – Telerau ac Amodau

  • Her boblogaidd Ambiwlans Awyr Cymru, Cerdded Cymru, yn dychwelyd

    Her boblogaidd Ambiwlans Awyr Cymru, Cerdded Cymru, yn dychwelyd

    Ydy'ch hwyliau yn gwella nawr bod y dyddiau'n ymestyn a'r tymheredd yn dechrau codi?

  • 17 Mawrth 2023

  • Ambiwlans Awyr Cymru yn agor ei hystafell gyntaf i gleifion a theuluoedd er cof am Arwel Davies, tad poblogaidd o Lanymddyfri

    Ambiwlans Awyr Cymru yn agor ei hystafell gyntaf i gleifion a theuluoedd er cof am Arwel Davies, tad poblogaidd o Lanymddyfri

    Bydd yr ystafell yn ystafell bwrpasol er mwyn i gleifion a’u hanwyliaid dderbyn cymorth ôl-ofal yn dilyn triniaeth gan yr Elusen.

Most read

  • Meithrinfa yng Nghaernarfon yn codi dros £2,000 drwy deithiau cerdded noddedig i Ambiwlans Awyr Cymru

    Meithrinfa yng Nghaernarfon yn codi dros £2,000 drwy deithiau cerdded noddedig i Ambiwlans Awyr Cymru

    Mae meithrinfa yng Nghaernarfon wedi codi dros £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.

  • Achub Bywydau. Dros Gymru

    Achub Bywydau. Dros Gymru

    Pob blwyddyn mae ein hofrenyddion yn cynnal tua 2,500 o gyrchoedd achub.

  • Hanes a Ffeithiau

    Hanes a Ffeithiau

  • Staff a disgyblion yn ‘cerdded Cymru’ i godi dros £2,600 i'r elusen sy'n achub bywydau

    Staff a disgyblion yn ‘cerdded Cymru’ i godi dros £2,600 i'r elusen sy'n achub bywydau

    Mae staff a disgyblion Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch wedi codi £2,645 drwy gymryd rhan yn her rithwir Cerdded Cymru Ambiwlans Awyr Cymru eleni - sef her castell i gastell.

  • Disgyblion yn cerdded 16 milltir i godi dros £2,000 i elusen sy'n achub bywydau

    Disgyblion yn cerdded 16 milltir i godi dros £2,000 i elusen sy'n achub bywydau

    Mae pobl ifanc o ysgol gynradd ym Methesda wedi codi dros £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy gerdded y pellter rhwng Castell Dinas Bran a Chastell Caergwrle yn rhithwir.

  • Loteri Achub Bywyd

    Loteri Achub Bywyd

    Ymunwch â'n loteri achub bywyd.

  • Elain yn rhoi £1,000 i Ambiwlans Awyr Cymru

    Elain yn rhoi £1,000 i Ambiwlans Awyr Cymru

    Mae menyw ifanc o Lanrug wedi rhoi £1,000 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i'w chynlluniau i wirfoddoli mewn ysgol ym Mhatagonia gael eu canslo.

  • Plant bach yn cerdded wyth milltir i godi dros £1,900 i elusen sy'n achub bywydau

    Plant bach yn cerdded wyth milltir i godi dros £1,900 i elusen sy'n achub bywydau

    Mae disgyblion o Ysgol y Gelli yn barod i gamu ymlaen drwy gerdded wyth milltir i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

  • Caernarfon

    Caernarfon

  • Penwythnos Cwrs Hir 2021

    Penwythnos Cwrs Hir 2021

    Cewch hwyl yn cymryd rhan yn yr ŵyl aml-chwaraeon fwyaf yn Ewrop, sef y Penwythnos Cwrs Hir.

Dolenni Defnyddiol

  • Cysylltu â Ni
  • Map o'r safle
  • Telerau ac Amodau
  • Polisi Preifatrwydd
  • Hygyrchedd
  • Login
  • My details
  • Log out
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Gwybodaeth

Ty Elusen, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen, Llanelli, SA14 8LQ

Maes Awyr Caernarfon, Dinas Dinlle, Caernarfon, LL54 5TP

Rhif Elusen Gofrestredig: 1083645. Hawlfraint © 2019

Ambiwlans Awyr Cymru yw enw masnachol Ymddiriedolaeth Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, elusen wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (1083645), a chwmni cofrestredig cyfyngedig drwy warant yng Nghymru a Lloegr (04036600). Swyddfa gofrestredig: Tŷ Elusen, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen, Llanelli, SA14 8LQ.


Manage Cookie Preferences