Raffl

Mae Raffl yn ffordd dda o godi arian, ond mae'n bwysig bod yn ymwybodol o’r gyfraith ac a fydd angen trwydded arnoch ar gyfer eich digwyddiad. Am ragor o wybodaeth a chyngor, ewch i www.gamblingcommission.gov.uk, a siaradwch â’ch swyddog codi arian cymunedol.

Yswiriant a Thrwyddedau

Rydym yma i’ch helpu i drefnu eich digwyddiad, ond chi sy’n gyfrifol am eich gweithgareddau ac ni all Ambiwlans Awyr Cymru gymryd unrhyw gyfrifoldeb. Rydym yn eich annog i ofyn i’ch awdurdod lleol a oes angen trwydded arbennig arnoch ar gyfer eich digwyddiad. Gallwch hefyd ddarllen gwybodaeth am ddigwyddiadau gan y Rheoleiddiwr Codi Arian a chyfarwyddiadau i wirfoddolwyr gan y Sefydliad Codi Arian.

Hylendid Bwyd

Os ydych yn trefnu digwyddiad ac yn bwriadu gwerthu bwyd, mae'n bwysig cofio y bydd cyfreithiau diogelwch bwyd yn gymwys. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd www.food.gov.uk