Bydd pob ceiniog y byddwch yn ei chodi yn ein galluogi i barhau i achub bywydau yng Nghymru. Mae yna wahanol ffyrdd y gallwch anfon eich rhoddion atom.

JustGiving

Mae JustGiving yn adnodd gwych sy’n symleiddio'r broses o wneud rhodd neu noddi. Mae pob rhodd yn cael ei anfon yn syth atom drwy dudalen Ambiwlans Awyr Cymru. Yn ogystal, bydd unrhyw arian a roddir ar ôl eich digwyddiad yn dod yn syth atom hefyd.

Facebook

Mae Facebook yn syml ac yn hawdd ac mae unrhyw roddion yn cael eu hanfon yn syth atom..

Dros y Ffôn

Ffoniwch ni ar 0300 0152 999 a gadewch i un o’n cynrychiolwyr hyfryd eich tywys drwy’r broses. Cofiwch ddweud wrtho sut y gwnaethoch godi eich cyfanswm!

Drwy'r Post

Rydym yn dwlu derbyn llythyron a chlywed eich straeon. Er mwyn anfon eich arian atom, bydd angen i chi bostio’r canlynol:

· unrhyw ffurflenni nawdd a gwblhawyd

· naill ai'r ffurflen bancio, neu siec os byddwch yn penderfynu gwneud rhodd drwy'r post. (Sieciau yn daladwy i Ambiwlans Awyr Cymru)

Wales Air Ambulance
Ty Elusen 
Llanelli Gate 
Dafen
Llanelli
SA14 8IQ