Un o’r pethau cyntaf y dylech ei ystyried yw sut y byddwch yn casglu arian nawdd. Dyma rai syniadau:

Ffurflen Noddi

Beth am Ffurflen Noddi syml? Mae'n cynnwys opsiwn Rhodd Cymorth sy’n galluogi elusennau i hawlio 25c am bob £1 y byddwch yn ei rhoi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi'r manylion llawn ar y ffurflen.

Os byddwch yn penderfynu defnyddio un o’n ffurflenni noddi, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected] , er mwyn dweud wrthym beth rydych yn ei wneud; yna gallwn anfon crys-t ac adnoddau codi arian eraill atoch i'ch helpu.

JustGiving a llwyfannau gwneud rhodd ar-lein erail

Creu tudalen JustGiving yw'r ffordd fwyaf cyflym a syml o ddweud wrth bobl eich bod yn codi arian. Ewch i https://www.justgiving.com/waa a dilynwch y cyfarwyddiadau i greu eich tudalen codi arian eich hun.

Gwneud rhodd drwy neges destun

Mae JustGiving yn cynnig cod neges destun personol, sy’n golygu y gall unrhyw un eich noddi drwy anfon neges destun. Perffaith ar gyfer gwneud rhodd gyflym.

Facebook

Ydych chi’n hoffi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol? Mae Facebook nawr yn cynnig ffordd syml a hawdd o godi arian drwy eich tudalen eich hun. . Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dilyn y ddolen hon, https://www.facebook.com/fundraisers/, rhannu eich stori, gosod targed codi arian a gwylio'r rhoddion yn cynyddu.