Po fwyaf o bobl sy’n gwybod am eich digwyddiad, y mwyaf o roddion rydych yn debygol o’u cael. Drwy hyrwyddo eich digwyddiad rydych yn llawer mwy tebygol o godi mwy o arian.

Rhannu eich digwyddiad

Atgoffwch eich ffrindiau am yr hyn rydych yn wneud a pham drwy eich sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Cadw mewn cyswllt

Mae gan bawb ddulliau gwahanol o gyfathrebu – manteisiwch ar hynny; e-bostiwch, anfonwch negeseuon testun, neu diweddarwch eich sianeli cyfryngau cymdeithasol, a chadwch mewn cysylltiad â’ch noddwyr.

Cofiwch ddweud diolch

Cofiwch ddiolch am bob un rhodd. P’un a fydd rhywun yn prynu tocyn neu’n cyfrannu gwobr ar gyfer raffl, dangoswch eich gwerthfawrogiad.