Dave Gilbert Cadeirydd Expand Ymunodd Dave â Bwrdd Ymddiriedolwyr yr elusen yn 2009 a daeth yn Gadeirydd yn 2013. Ymddeolodd Dave fel Prif Weithredwr Cyngor Sir Gar yn 2015 ar ôl 12 mlynedd yn y swydd. Ers iddo symud i Gymru yn 1992, mae Dave hefyd wedi gweithio i Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Dinas Abertawe. Mae’n aelod o Fwrdd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe ac ymunodd â Bwrdd Cynghori Parth Menter Port Talbot yn ddiweddar. Yn 2012 derbyniodd Dave OBE am wasanaethau ym maes Adfywio a Sgiliau yng Ngorllewin Cymru. Yn wreiddiol o Henffordd, mae’n ddeiliad tocyn tymor ar gyfer Hereford FC ac yn mynychu gemau Clwb Rygbi Llanymddyfri yn rheolaidd.
Dafydd Jones Morris Expand Ymunodd Dafydd Jones-Morris â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn 2012. Yn gyn-barafeddyg a chyfarwyddwr gweithredol rhyngwladol gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, mae gan Dafydd bron 40 mlynedd o brofiad ym maes gofal cyn-ysbty. Bu’n rhan o weithgor a oedd yn gyfrifol am gydgysylltu a darparu gwasanaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol yng nghanolfan awyr yr elusen yng Nghaernarfon. Yn wreiddiol o Fangor, mae Dafydd yn angerddol am ei gymuned leol ac yn aelod o Gymdeithas Rheilffordd Eryri, côr meibion lleol ac yn gadeirydd cyngor cymunedol.
Jim Wagstaffe Expand Ymunodd Jim Wagstaffe â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn 2013. Mae Jim wedi gweithio ym maes Adnoddau Dynol a swyddi rheoli am fwy na 30 mlynedd. Mae ei brofiad yn estyn o’r sector gweithgynhyrchu preifat i’r sector cyhoeddus a’r GIG, ac mae ganddo bellach ei fusnes ymgynghori ei hun ym maes Adnoddau Dynol a Rheoli. Ef yw cadeirydd pwyllgor Adnoddau Dynol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Mae Jim yn byw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru lle mae’n mwynhau treulio amser gyda’i deulu ac yn gwirfoddoli fel llywodraethwr ysgol. Mae’n cefnogi Cynghrair Rygbi Croesgadwyr Gogledd Cymru.
Bryn Terfel OBE Noddwr Expand Mae'r seren opera Bryn Terfel wedi bod yn un o Noddwyr Ambiwlans Awyr Cymru ers 2005. Mae’n cefnogi’r elusen ar draws Cymru, yn aml drwy ddathlu â cherddoriaeth. Mae’r bas-baritôn wedi recordio dwy gryno ddisg ar gyfer yr elusen, gan gynnwys Anfonaf Angel a’r fersiwn Saesneg, Guardian Angel.
Rhys Meirion Llysgennad Expand Ymunodd y tenor Rhys Meirion â’r elusen fel Llysgennad yn 2012. Ar ôl dioddef trasiedi personol, ymgymerodd Rhys â thaith gerdded 200 milltir ar draws Cymru, gan godi miloedd o bunnau i'r elusen. Mae Rhys yn parhau i berfformio mewn cyngherddau a digwyddiadau er budd yr elusen ledled y wlad.
Simon Richardson MBE Llysgennad Expand Ymunodd y beiciwr Paralympaidd Simon Richardson â’r elusen fel Llysgennad yn 2012. Cafodd yr athletwr o Borthcawl, a enillodd fedal arian a dwy fedal aur yng Ngemau Paralympaidd Beijing yn 2008, ei hedfan gan Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl gwrthdrawiad car difrifol. Creodd Simon yr ymgyrch codi arian a’r hashnod arbennig #SimonStrong, gyda nifer o ddigwyddiadau codi arian wedi’u cynllunio ar gyfer yr elusen.