Mae'r seren opera Bryn Terfel wedi bod yn un o Noddwyr Ambiwlans Awyr Cymru ers 2005. Mae’n cefnogi’r elusen ar draws Cymru, yn aml drwy ddathlu â cherddoriaeth.

Mae’r bas-baritôn wedi recordio dwy gryno ddisg ar gyfer yr elusen, gan gynnwys Anfonaf Angel a’r fersiwn Saesneg, Guardian Angel.