Taliad: Expand Cost pob tocyn yw £1. Gallwch brynu mwy nag un tocyn hyd at uchafswm o 10 tocyn fesul raffl. Rhaid talu ymlaen llaw er mwyn cymryd rhan yn y Loteri Achub Bywyd, a hynny drwy Ddebyd Uniongyrchol, siec neu gerdyn debyd/credyd. Os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol misol, bydd £4.34 (neu’r swm lluosog os oes gennych fwy nag un llinell o rifau) yn cael ei gasglu’n syth o’ch cyfrif banc. Gellir trefnu taliadau Debyd Uniongyrchol dros y ffôn, ar ein gwefan neu drwy fandad ysgrifenedig. Mae’r mandad Debyd Uniongyrchol ar gael ar gefn ein taflenni neu gan ein swyddfa. Gallwch hefyd drefnu taliad Debyd Uniongyrchol ar ein gwefan. Os ydych wedi dewis talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, byddwch yn cael Llythyr Hysbysu Ymlaen Llaw.
Manylion y Raffl a’r Gwobrau: Expand Bydd aelodau newydd yn cael rhif(au) unigryw a ddewiswyd ar hap gan ein meddalwedd gyfrifiadurol gymeradwy a rhif aelodaeth personol Bydd y raffl yn cael ei thynnu fel arfer bob dydd Gwener (ac eithrio pan fydd dydd Gwener yn ddiwrnod Gŵyl Banc, ac o dan y fath amgylchiadau, bydd y raffl yn cael ei thynnu ar y diwrnod gwaith nesaf yng Nghymru). Mae’r gwobrau fel a ganlyn: (a) Y Wobr Gyntaf - £1,000 yn wythnosol (b) Yr Ail Wobr - £200 yn wythnosol (c) Y Drydedd Wobr - £100 yn wythnosol (d) Y Bedwaredd Wobr - 20 x £10 yn wythnosol Caiff enillwyr eu hysbysu drwy’r post o fewn wythnos i’r dyddiad y cynhaliwyd y raffl, a fydd yn cynnwys y siec berthnasol. Caiff rhifau buddugol wythnosol (ynghyd â theitl a chyfenw’r tri phrif enillydd) eu cyhoeddi ar ein gwefan. Drwy gymryd rhan yn y Loteri Achub Bywyd, rydych yn cytuno i’ch teitl a’ch cyfenw gael eu cyhoeddi os byddwch yn llwyddiannus. Bydd y rhifau buddugol hefyd ar gael drwy gysylltu â’r Adran Loteri yn ein swyddfa yn Llanelli. · Os na ellir talu gwobr o fewn 6 mis i ddyddiad y raffl, caiff ei fforffedu.
Canslo: Expand Gellir canslo aelodaeth ar unrhyw adeg, er na fydd unrhyw gais o’r fath a geir ar ôl 17.00 ar nos Iau o bosibl yn cael ei weithredu tan ar ôl y raffl wythnosol. Os ydych yn talu drwy archeb sefydlog neu gerdyn debyd / credyd yn rheolaidd, yna rhaid i chi ganslo yn ysgrifenedig drwy’r post neu e-bost. Er mwyn canslo taliadau cerdyn, rhaid i chi roi eich manylion cerdyn gwreiddiol i ni. Cysylltwch â’r Adran Loteri yn Llanelli am gymorth pellach. Rydym yn cadw’r hawl i wrthod cais neu ganslo tanysgrifiad cyfredol yn ôl ein disgresiwn llwyr. Gellir ailystyried unrhyw benderfyniad o’r fath os cyflwynir apêl ysgrifenedig i Reolwr y Loteri cyn pen 7 diwrnod. Bydd penderfyniad Rheolwr y Loteri yn derfynol.
Newid manylion: Expand Cyfrifoldeb y chwaraewr yw rhoi gwybod i ni am unrhyw newid i gyfeiriad neu unrhyw fanylion aelodaeth eraill a ystyrir yn angenrheidiol.
Ni fydd y trwyddedai yn gyfrifol am: Expand Unrhyw gynigion neu ohebiaeth a gaiff eu colli, eu dwyn neu eu hoedi yn y post, eu difrodi neu sy’n annarllenadwy, gan olygu na ellir adnabod yr enillydd, neu unrhyw gynigion neu ohebiaeth heb stamp digonol arnynt (nid yw prawf eich bod wedi postio’r eitem yn brawf ei bod wedi’i derbyn); Unrhyw daliadau banc hwyr; Methiant neu anallu’r Trwyddedai i gysylltu â chi a/neu ddyfarnu unrhyw wobr yn sgil gwallau, esgeulustod neu anghywirdeb o ran y manylion cyswllt neu’r manylion banc a roddwyd gennych neu fethiant ar eich rhan i’w diweddaru os ydynt yn newid; Colledion neu ddifrod a achosir gennych yn sgil cymryd rhan yn y Loteri neu eich defnydd o unrhyw wobr; Unrhyw ymyriadau neu wallau ar y Wefan; Gwallau neu fethiannau o ran y caledwedd neu’r feddalwedd neu unrhyw achosion o golli cysylltiad â’r rhwydwaith, cysylltiadau diffygiol neu ddiffyg gwasanaeth; neu unrhyw fethiant neu oedi y tu hwnt i reolaeth resymol y Trwyddedai.
Preifatrwydd Expand Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu eich preifatrwydd. Bydd y data y byddwn yn eu casglu gennych yn cael eu prosesu’n gyfreithlon yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (2018) ac yn cael eu defnyddio dim ond at ddibenion prosesu eich tocynnau raffl a chysylltu â chi os byddwch wedi ennill gwobr neu os byddwch wedi dewis cael deunydd marchnata gan Ambiwlans Awyr Cymru. Darllenwch ein Polisi Breifatrwydd llawn yma.
Cyfrifoldeb cymdeithasol Expand Mae Deddf Gamblo 2005 yn cadarnhau bod gan Ambiwlans Awyr Cymru ddyletswydd statudol i ddilysu bod aelodau yn 16 neu’n hŷn, sef yr oedran gofynnol ar gyfer chwarae’r Loteri Achub Bywyd. Mae’n drosedd i unrhyw un o dan 16 oed chwarae loteri. Bydd Ambiwlans Awyr Cymru, lle y bo’n briodol, yn cynnal gwiriadau er mwyn dilysu’r gofyniad hwn, gan gynnwys gofyn am gadarnhad gan Asiantaethau perthnasol a all ddarparu’r cyfryw wybodaeth, os oes angen. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnal Loteri Gymdeithasol ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru, gyda’r unig nod o godi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod y loteri’n cael ei chynnal mewn ffordd ddiogel, deg a chymdeithasol gyfrifol, ac i gefnogi gamblo diogel ymhlith yr aelodau. Darllenwch ei Polisi Hapchwarae llawn yma.
Cwynion Expand Byddwn yn delio â phob cwyn ac anghydfod yn unol â’n polisi, sydd ar gael ar ein gwefan neu drwy gysylltu â’n Hadran Loteri.