Manylion y Raffl a’r Gwobrau: Bydd aelodau newydd yn cael rhif(au) unigryw a ddewiswyd ar hap gan ein meddalwedd gyfrifiadurol gymeradwy a rhif aelodaeth personol Bydd y raffl yn cael ei thynnu fel arfer bob dydd Gwener (ac eithrio pan fydd dydd Gwener yn ddiwrnod Gŵyl Banc, ac o dan y fath amgylchiadau, bydd y raffl yn cael ei thynnu ar y diwrnod gwaith nesaf yng Nghymru). Mae’r gwobrau fel a ganlyn: (a) Y Wobr Gyntaf - £1,000 yn wythnosol (b) Yr Ail Wobr - £200 yn wythnosol (c) Y Drydedd Wobr - £100 yn wythnosol (d) Y Bedwaredd Wobr - 20 x £10 yn wythnosol Caiff enillwyr eu hysbysu drwy’r post o fewn wythnos i’r dyddiad y cynhaliwyd y raffl, a fydd yn cynnwys y siec berthnasol. Caiff rhifau buddugol wythnosol (ynghyd â theitl a chyfenw’r tri phrif enillydd) eu cyhoeddi ar ein gwefan. Drwy gymryd rhan yn y Loteri Achub Bywyd, rydych yn cytuno i’ch teitl a’ch cyfenw gael eu cyhoeddi os byddwch yn llwyddiannus. Bydd y rhifau buddugol hefyd ar gael drwy gysylltu â’r Adran Loteri yn ein swyddfa yn Llanelli. · Os na ellir talu gwobr o fewn 6 mis i ddyddiad y raffl, caiff ei fforffedu. Manage Cookie Preferences