Dydd Gwener 7 Chwefror 2020

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn herio pobl Cymru i gymryd rhan mewn ras rithwir, a fydd yn gwella eu hiechyd a'u llesiant wrth godi arian i helpu i gyflwyno gwasanaeth ambiwlans awyr 24/7.

Gellir rhedeg neu gerdded yr her rithwir hon, unrhyw le. Gellir ei chwblhau ar drac rasio, yn y gampfa, neu hyd yn oed wrth gerdded y ci. Mae hyn yn golygu y gall pobl gwblhau'r her mewn amserlen benodedig ar eu cyflymder eu hunain.

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi lansio her 'Fy Milltiroedd Hedfan' lle y gall pawb, ni waeth am eu lefel ffitrwydd, gymryd rhan a chodi arian ar gyfer yr Elusen. Mae tri phellter i ddewis o'u plith: 25 milltir, 50 milltir neu 100 milltir. Y ffi cofrestru yw £14 ar gyfer pob pellter.

Unwaith y bydd pobl wedi cofrestru, bydd ganddynt drwy gydol mis Mawrth i gerdded neu redeg y pellter a ddewiswyd ganddynt. Bydd angen iddynt gofnodi eu milltiroedd drwy ap neu ar gofnod papur.

Caiff y sawl sy'n cyrraedd eu pellteroedd targed eu gwobrwyo â medal a thystysgrif. Hefyd, bydd y bobl sy'n codi £50 drwy nawdd yn cael crys rhedeg Ambiwlans Awyr Cymru, a bydd y sawl sy'n codi £100 yn cael cyfle i ennill gwobr wych, sef arhosiad tair noson yn Bluestone. Rhoddwyd y wobr hon yn garedig iawn gan y gyrchfan gwyliau yn Sir Benfro.

Dywedodd Steffan Anderson-Thomas, Arweinydd Digwyddiadau'r Elusen: “Mae ein meddygon yn teithio cannoedd o filltiroedd y flwyddyn drwy eu sifftiau clinigol yn unig, a dyna wnaeth ysbrydoli ein ras rithwir. Ni waeth beth fo lefel eich gallu, p'un a ydych yn rhedeg neu'n cerdded, mae'r her yn hyblyg ac yn addas i bawb. Mae cerdded a rhedeg yn ffyrdd gwych o wneud ymarfer corff cardiofasgwlaidd, felly mae'r ras rithwir yn ffordd ddelfrydol o gadw'n egnïol.

"Bydd yr arian a godir drwy her 'Fy Milltiroedd Hedfan' yn mynd tuag at wireddu ein huchelgais o gyflwyno gwasanaeth 24/7 yn 2020. Ar hyn o bryd, mae ein gwasanaeth sy'n achub bywydau'n gweithredu o 8am i 8pm, 7 diwrnod yr wythnos, ond hoffem fod ar gael ddydd a nos i bobl Cymru. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni godi £8 miliwn bob blwyddyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am her 'Fy Milltiroedd Hedfan', ac i gofrestru, ewch i https://www.ambiwlansawyrcymru.com/fy-milltiroedd-awyr.