Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bartneriaeth unigryw â GIG Cymru, sy’n galluogi meddygon ac ymarferwyr y GIG i hedfan gyda'r elusen.

Mae hyn yn golygu bod cleifion yn gallu cael gofal a thriniaethau uwch cyn cyrraedd yr ysbyty.

Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys


              


Ein meddygon ymgynghorol yw'r un rhai ag y byddech yn eu gweld mewn Uned Damweiniau ac Achosion Brys. Mae ein hymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn ac yn perthyn i gefndiroedd nyrsio a pharafeddygaeth. Mae’r tîm yn defnyddio rhai o’r triniaethau a’r cyfarpar mwyaf datblygedig yn y byd, o dechnegau a ddatblygwyd gan y lluoedd arfog.

Meddygon sy’n Hedfan Cymru oedd y gwasanaeth ambiwlans awyr dan arweiniad meddygon ymgynghorol dynodedig cyntaf yn y DU. Mae’r cynllun yn ymrwymedig nid yn unig i ddarparu'r gofal gorau posibl i gleifion yng Nghymru cyn cyrraedd yr ysbyty, ond hefyd i uwchsgilio a denu meddygon ac ymarferwyr gofal critigol i weithio a byw yng Nghymru.

Mae rhai o’r gwasanaethau’n cynnwys:

Gofal critigol cyn ysbyty i bobl o bob oed (e.e. unrhyw ymyrraeth/penderfyniad a wneir y tu allan i ymarfer safonol parafeddygon)

Trosglwyddo oedolion a phlant sydd mewn perygl o golli eu bywyd neu o golli braich neu goes o ganolfannau ledled Cymru (yn cynnwys Adrannau Achosion Brys, Unedau Asesu Meddygol, Unedau Mân Anafiadau) er mwyn cael ymyrraeth arbenigol.

Yn ychwanegol, mae’r ‘meddygon sy’n hedfan’ yn darparu estyniad o ofal critigol cyn ysbyty ar gyfer mamau a babanod newydd-anedig (yn cynnwys ar gyfer genedigaethau gartref a genedigaethau mewn unedau annibynnol dan arweiniad bydwragedd. Mae’r gofal yn cynnwys:

Trosglwyddo timau newyddenedigol i achosion pell lle mae amser yn brin.

Cefnogi unedau dan arweiniad bydwragedd a genedigaethau gartref drwy sefydlogi babanod newydd-anedig a mamau â phroblemau sy’n bygwth bywyd a’u trosglwyddo i unedau esgor dan arweiniad meddygon ymgynghorol.