Mae ein tîm o feddygon ac ymarferwyr gofal critigol yn golygu bod Ambiwlans Awyr Cymru yn gallu trin mwy o bobl.

Mae’r meddygon wedi’u dewis yn arbennig ar gyfer y swydd ac yn arbenigo mewn meddygaeth frys, gofal pediatrig, anesthesia a gofal dwys. Ynghyd â’r sgiliau hyn mae ein criwiau’n cario offer arloesol gan gynnwys cynnyrch gwaed.


CYNNYRCH GWAED

Ambiwlans Awyr Cymru oedd un o’r timau ambiwlans cyntaf yn Ewrop i gario tri math o gynnyrch gwaed. Mae’r hofrenyddion nawr yn cario celloedd gwaed coch, lyoplas ac ychwanegyn ffibrinogen. Mae'r rhain yn helpu i atal gwaedu ac ailgyflenwi gwaed a gollir gan y claf.

Dywed Dr Dindi Gill: “Mae’r dechneg achub bywyd yma wedi’i hysbrydoli gan feddygaeth y fyddin a defnyddiwyd yn Afghanistan lle mae’n rhaid atal colled gwaed trwm ac ailgyflenwi gwaed ar frys.

“Roedden ni’n un o’r gwasanaethau sifil cyntaf yn Ewrop i gynnig triniaeth o’r fath. Ar hyn o bryd mae rhai gwasanaethau ambiwlans awyr yn y DU ond yn cario celloedd gwaed coch. Mae Ambiwlans Awyr Cymru hefyd yn cario lyoplas ac ychwanegiad ffibrinogen, sy’n helpu’’r broses geulo ac yn atal colled gwaed pellach.”

Celloedd Gwaed Coch: Fel rhan sylfaenol o’r system cylchrediad y gwaed, mae celloedd gwaed coch yn cludo ocsigen i organau’r corff. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cario gwaed 0 negatif sy’n gydnaws â phob grŵp gwaed arall.

Lyoplas: Plasma hylifol wedi’i rew-sychu, sy'n ffurfio tua 50 y cant o waed. Pan gaiff ei gymysgu â dŵr, gellir ei ddefnyddio i helpu yn ystod trallwysiadau gwaed mewn argyfwng.

Ychwanegiad Ffibrinogen: Dos crynodol o ffibrinogen sy’n helpu’r broses ceulo gwaed. Yn debyg i Lyoplas a chelloedd gwaed coch, caiff ei dynnu o waed a roddir gan aelodau’r cyhoedd. Cyflenwir y gwaed gan Wasanaeth Gwaed Cymru.


MONITOR NWY GWAED EPOC

 .       

Mae’r EPOC yn galluogi ein criwiau i gynnal dadansoddiad manwl o waed a fyddai fel arall ond bosibl mewn ysbytai.

Drwy brofi gwaed yn y fan a’r lle, gall tîm yr ambiwlans awyr ddadansoddi’r gwaed o fewn oddeutu pum munud.

Dywedodd Dr Gill: “Mae cynnal profion gwaed yn rhywbeth y byddwn yn ei wneud i unrhyw glaf anhwylus, a gallant helpu i nodi nifer o broblemau mewn cyfnod byr iawn o amser.

“Mae’n ymwneud â deall cyflwr claf cyn gynted â phosib. Drwy gynnal profion yn gynt, gallwn nodi cyflwr claf yn gynt ac arbed amser ar ôl cyrraedd yr ysbyty."


SGANIWR UWCHSAIN

Mae meddygon Ambiwlans Awyr hefyd yn meddu ar sganwyr uwchsain, sydd yn helpu i nodi trawma mewnol i organau yn y camau cynnar.

Mae’r sganiwr yn medru adnabod gwaedu mewnol a helpu i ddod o hyd le mae’r gwaed yn cael ei golli o.

Dywed Dr Gill: “Yn debyg i’r EPOC, mae’r sganiwr yn helpu ni i adnabod problemau yn y camau cynnar, sydd hefyd yn arbed amser ar driniaethau pryd mae’r claf yn cyrraedd yr ysbyty.”

“Yn ogystal â gwaedu mewnol, mae’r sganiwr yn medru adnabod trawma i organau er enghraifft ysgyfaint wedi’i ddyllu."


MONITOR 'TEMPUS PRO'

Gan ddefnyddio technoleg a ddatblygwyd ar gyfer amgylcheddau morwrol, archwilio a milwrol, mae’r Tempus Pro yn galluogi criwiau i drosglwyddo gwybodaeth ddiagnostig yn ddi-wifr, fel pwls, cyfradd curiad y galon, a lefelau ocsigen. Mae’r wybodaeth hon wedyn yn cael ei darllen gan ysbyty neu glinigydd mewn lleoliad gwahanol, a all roi cyngor ac arweiniad os oes angen, neu baratoi ar gyfer claf critigol cyn iddo gyrraedd yr ysbyty. Dywedodd Dr Gill: “Mae’r Tempus Pro wedi’i ddefnyddio gan luoedd arfog y DU ac yn galluogi clinigwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwr claf o bell. Gallant wedyn gynnig cyngor ar driniaeth, neu baratoi ar gyfer y claf cyn iddo gyrraedd yr ysbyty.

“Mae’r Tempus Pro yn cynnwys technoleg sy’n galluogi timau Ambiwlans Awyr Cymru i fod y cyntaf ym Mhrydain i weinyddu anesthetig brys a darparu adborth drwy fideo i dimau clinigol o bell."


PEIRIANT ANADLU O'R RADD FLAENAF

Mae’r peiriannau anadlu datblygedig a ddefnyddir gan y timau gofal critigol wedi’u cynllunio i weithio ar bobl o bob oed, o fabanod i’r henoed.

Dywedodd Dr Gill: “Y peiriannau anadlu rydym yn eu defnyddio oedd y rhai cyntaf o’u bath yn y DU, ac meant yn ein helpu i sefydlogi cleifion cyn iddynt gael eu cludo i’r ysbyty agosaf priodol.”


CERBYDAU YMATEB CYFLYM

    

Drwy ein partneriaeth â GIG Cymru, mae gan y meddygon ddefnydd o fflyd o Gerbydau Ymateb Cyflym (RRV’s).

Mae’r rhain wedi’u lleoli ledled Cymru ym mhob un o’n pedair canolfan awyr. Bydd hyn yn helpu’r tîm i ymateb i argyfyngau ar y ffordd os oes angen.

Mae pump Audi Q7 wedi cael eu troi’n gerbydau ymateb brys o’r radd flaenaf er mwyn galluogi meddygon i gyrraedd lleoliad yr argyfwng meddygol cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Dr Gill: “Pan nad yw’r timau gofal critigol yn hedfan, er enghraifft mewn tywydd niwlog, mae’r cerbydau yn rhan hollbwysig o’r gwaith o ymateb i alwadau, gan gario technoleg o’r radd flaenaf. Mae modd trosglwyddo cit y criw o’r hofrennydd i’r cerbyd ffordd.”.