Cam 1 – Casglu rhoddion neu arian nawdd Un o’r pethau cyntaf y dylech ei ystyried yw sut y byddwch yn casglu arian nawdd. Dyma rai syniadau: Ffurflen Noddi Beth am Ffurflen Noddi syml? Mae'n cynnwys opsiwn Rhodd Cymorth sy’n galluogi elusennau i hawlio 25c am bob £1 y byddwch yn ei rhoi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi'r manylion llawn ar y ffurflen. Os byddwch yn penderfynu defnyddio un o’n ffurflenni noddi, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected] , er mwyn dweud wrthym beth rydych yn ei wneud; yna gallwn anfon crys-t ac adnoddau codi arian eraill atoch i'ch helpu. JustGiving a llwyfannau gwneud rhodd ar-lein erail Creu tudalen JustGiving yw'r ffordd fwyaf cyflym a syml o ddweud wrth bobl eich bod yn codi arian. Ewch i https://www.justgiving.com/waa a dilynwch y cyfarwyddiadau i greu eich tudalen codi arian eich hun. Gwneud rhodd drwy neges destun Mae JustGiving yn cynnig cod neges destun personol, sy’n golygu y gall unrhyw un eich noddi drwy anfon neges destun. Perffaith ar gyfer gwneud rhodd gyflym. Facebook Ydych chi’n hoffi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol? Mae Facebook nawr yn cynnig ffordd syml a hawdd o godi arian drwy eich tudalen eich hun. . Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dilyn y ddolen hon, https://www.facebook.com/fundraisers/, rhannu eich stori, gosod targed codi arian a gwylio'r rhoddion yn cynyddu. Manage Cookie Preferences