Er bod y mwyafrif o bobl yn gamblo yn unol â’u modd, gall gamblo fod yn broblem i rai. Efallai y bydd y pwyntiau canlynol yn eich helpu i gadw rheolaeth:

· Dylid ystyried gamblo fel adloniant ac nid fel ffordd o wneud arian

· Dylid osgoi ceisio adennill colledion

· Ni ddylech ond gamblo yr hyn y gallwch fforddio ei golli

· Dylech gadw llygad ar yr amser rydych yn ei dreulio’n gamblo a’r arian rydych yn ei wario

· Os ydych am roi’r gorau i gamblo am gyfnod, gallwch ddefnyddio ein hopsiwn hunaneithrio drwy e-bostio [email protected], gan nodi eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhifau aelodaeth. Byddwn wedyn yn cau eich aelodaeth am isafswm cyfnod o 6 mis ac ni fydd modd i chi ailagor y cyfrif yn ystod y cyfnod hwn am unrhyw reswm.

· Os oes angen i chi siarad â rhywun am broblem gamblo, yna cysylltwch â GamCare. Elusen gofrestredig yw GamCare sy’n cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol dros y ffôn i unrhyw un y mae problem gamblo yn effeithio arno. Gellir cysylltu â GamCare ar 0845 6000 133 (am ddim o linellau tir yn y DU a’r rhan fwyaf o ffonau symudol).